大象传媒

Galwad arall am wahardd pennaeth

  • Cyhoeddwyd
Bryn Parry Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y cyngor drafod a ddylid gwahardd Bryn Parry Jones o'i waith yr wythnos ddiwethaf, cyn i rai aelodau gerdded allan o'r cyfarfod

Mae'r galwadau ar brif weithredwr Cyngor Sir Penfro i gamu o'r neilltu tra mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr heddlu'n cynyddu.

Mae Aelod Cynulliad lleol wedi dweud bod angen i'r archwiliwr fynd yn 么l i Benfro i gynnal ymchwiliad o'r ffordd mae'r cyngor yn cael ei redeg.

Ddydd Llun, fe ddywedodd y cyngor na fyddai Bryn Parry Jones yn peidio 芒 gwneud ei waith tra mae'r heddlu'n ymchwilio i daliadau gafodd ei wneud iddo.

Mae'r cyngor wedi derbyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wnaeth ganfod bod y cyngor wedi gwneud taliadau "anghyfreithlon" i'r prif weithredwr ac un uwch-swyddog arall.

Mae prif weithredwr Cyngor Sir G芒r, Mark James, wedi camu o'r neilltu tra mae'r heddlu'n ymchwilio, wedi iddo dderbyn taliadau uniongyrchol yn lle cyfraniad i'w bensiwn.

'Angen meddwl yn ofalus'

Dywedodd Angela Burns, AC Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wrth 大象传媒 Cymru: "Fe fyddwn i'n dweud y dyliai ef [Bryn Parry Jones] gamu o'r neilltu.

"Rwy'n hapus iawn iddo gael ei ail-benodi os yw'r ymchwiliad heddlu yn darganfod fod popeth fel y mae e fod.

"Byddwn i hefyd yn hoffi gweld ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal oherwydd fy mod i'n teimlo bod y cynghorwyr sy'n rhan o hyn wedi ymddwyn yn y modd mwyaf eithriadol.

"Rwy'n cyfeirio at y digwyddiad 'na ddydd Gwener, pan roedd rhaid i gynghorwyr adael y siambr pan roedden nhw eisiau croesholi beth oedd yn digwydd.

"Rwy'n credu bod angen i'r gr诺p annibynnol sy'n rheoli feddwl yn ofalus iawn yngl欧n 芒 sut mae hyn yn edrych."

Dywedodd Ms Burns hefyd ei bod yn credu y dylai SAC gynnal ymchwiliad arall i'r cyngor, gan edrych ar sut mae'n cael ei lywodraethu.

Os na fyddai hynny'n digwydd, meddai, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r cyngor mewn mesurau arbennig.

Mae'r AC Llafur dros Lanelli, Keith Davies, hefyd wedi galw am wahardd Mr Parry o'i waith.