Cyngor Sir Penfro yn derbyn canfyddiadau'r Archwilydd Cyffredinol
- Cyhoeddwyd
Wedi i'r rhan fwyaf o aelodau Llafur Cyngor Sir Penfro gerdded allan o gyfarfod oedd i drafod gwahardd y prif weithredwr, mae'r cyngor wedi derbyn canfyddiadau'r Archwilydd Cyffredinol.
Mae hyn yn golygu na fydd y cyngor yn gadael i uwch swyddogion ddewis peidio ymuno 芒'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol oherwydd rhesymau treth.
Roedd y cyfarfod wedi cymryd tro annisgwyl gyda dadlau ffyrnig yn y siambr, cyn i rai o aelodau'r grwp Llafur gerdded allan gan alw'r cyfan yn "warth".
Bu Mr Timothy Kerr, y bargyfreithiwr a gyflogwyd gan y cyngor, yn darllen yn uchel rhestr o ddyfyniadau a roddwyd i bapurau lleol gan aelodau o'r cyngor yn galw am wahardd y prif weithredwr o'i waith.
Roedd yn dadlau bod hyn yn golygu eu bod eisoes wedi gwneud eu penderfyniad ac y dylen nhw adael y cyfarfod.
Roedd papur lleol y Western Telegraph wedi bod yn holi nifer o gynghorwyr yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Trafod y gwaharddiad
Roedd y cyfarfod wedi'i gynnal er mwyn rhoi cynnig gerbron Cyngor Sir Penfro yngl欧n ag a ddylid gwahardd y prif weithredwr, Bryn Parry Jones, o'i waith.
Roedd hyn yn dilyn adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).
Roedd yr adroddiad yn dweud fod taliadau i uwch-swyddogion cynghorau Sir Caerfyrddin a Sir Penfro yn "anghyfreithlon".
Ers hynny mae Heddlu Swydd Gaerloyw wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ymchwilio i weld a oes troseddu wedi digwydd.
Mewn datganiad i'r wasg gafodd ei ryddhau cyn y cyfarfod, mae arweinydd y cyngor, Jamie Adams, wedi amddiffyn y taliadau, ac mae hefyd yn gwadu fod trosedd wedi cael ei chyflawni.
Dywedodd Mr Adams, sy'n aelod annibynnol: "Mae'n bwysig bod cyfle i'r cynghorwyr ystyried pob tystiolaeth berthnasol cyn penderfynu'r modd gorau o ymateb i argymhellion yr Archwilydd."
"Er enghraifft, un camddealltwriaeth sydd wedi datblygu yw bod dau o brif swyddogion y Cyngor, o ganlyniad i'r trefniant hwn, yn derbyn ychwanegiadau at eu cyflog heb dalu treth.
"Yn blwmp ac yn blaen, nid yw hyn yn wir."
Ychwanegodd Mr Adams: "Camddealltwriaeth arall sydd wedi dod i'r amlwg yw bod trosedd wedi ei chyflawni.
"Rwy'n deall bod yr archwilydd, mewn cyfarfod gyda'r cyngor yn ddiweddar, wedi cadarnhau nad oedd yn awgrymu bod hyn yn wir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014