大象传媒

AC Llanelli yn galw am wahardd prif weithredwr o'i waith

  • Cyhoeddwyd
Mark James
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mark James, prif weithredwr y cyngor sir

Mae Aelod Cynulliad Llanelli, Keith Davies, wedi galw am wahardd Prif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, o'i waith nes bod ymchwiliad annibynnol wedi ei orffen.

Dywedodd yr AC ei fod wedi penderfynu siarad yn gyhoeddus wedi iddo ddarllen adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) gasglodd fod cynghorau sir Gaerfyrddin a Phenfro wedi gwario dros 拢100,000 yn anghyfreithlon.

Mr Davies yw'r aelod Llafur cyntaf i alw'n gyhoeddus am wahardd Mr James o'i waith.

Ei bryder yw bod Mr James wedi derbyn taliadau ariannol yn lle cyfraniadau pensiwn, a hynny er mwyn rhesymau treth.

Cafodd y prif weithredwr daliad am gostau cyfreithiol achos enllib gafodd ei ddwyn yn erbyn un o drigolion y sir.

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi cyfres o ddatganiadau sy'n dweud bod y taliadau yn gyfreithlon ac maen nhw wedi beirniadu SAC.

'Annibynnol'

Mae Mr Davies wedi dweud y dylid cael "adroddiad gan berson neu grwp anibynnol ac yna dod i benderfyniad.

"Yn ystod y cyfnod hwnnw," meddai, "dwi'n teimlo na ddylai'r prif weithredwr fod yno fel nad yw'n gallu dylanwadu ar y trafodaethau sy'n cael eu cynnal.

"Dwi'n credu y dylai gael ei wahardd fel digwyddodd gyda'r achos yn Sir Caerffili."

Mae SAC wedi dweud y gallai'r achos fynd i'r llys os yw Cyngor Sir G芒r yn gwrthod derbyn eu casgliadau bod y taliadau yn anghyfreithlon.

Ar 大象传媒 Cymru nos Wener dywedodd Mr Davies: "Rydych chi'n gwbod pan fo pobl y gyfraith yn cael eu tynnu i mewn ... fod hynny'n costio ffortiwn fach ac fe fydde'n drasiedi 'sen ni'n mynd mor bell 芒 hynny.

"Fy nheimlad i yw y dylai'r awdurdod lleol wrando ar Swyddfa Archwilio Cymru a pheidio 芒 brwydro yn eu herbyn gan fod SAC yn archwilwyr anibynnol ... 'na beth maen nhw yno i' neud.

'Arweiniad'

"Fe ddylai Sir G芒r fod wedi dilyn arweiniad Cyngor Caerffili.

"Beth ddigwyddodd yno, wrth gwrs, ydi bod trefniant wedi cael ei wneud mewn cyfarfod cabinet bychan i gynyddu cyflog y prif weithredwr, ac fe gerddodd y gweithwyr allan, gan ddweud eu bod am ymchwiliad annibynnol. Dyna, dwi'n credu, ddyle ddigwydd yn Sir Gaerfyrddin."

Dywedodd fod y gronfa bensiwn wedi dioddef ac y dylai cynghorwyr dderbyn cyngor annibynnol, allanol.

"Os taw chi yw'r prif swyddog a'r prif swyddogion eraill o fewn yr awdurdod yn gallu manteisio hefyd, sut allwch chi gael cyngor annibynnol oddi wrth bobol allai gael eu heffeithio'n bersonol?"

Mae wedi dweud fod beirniadu'r SAC yn "annoeth".

"Mae'r SAC yno i amddiffyn buddiannau pobl Cymru i gyd ac i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario yn gywir."

'Penderfyniad personol'

Yn y cyfamser, dywedodd Cyngor Sir G芒r: "Fe wnaeth y prif weithredwr benderfyniad personol i dynnu allan o'r cynllun pensiwn.

"Mae hawl gyfreithiol ganddo neu unrhyw aelod arall o'r cynllun i wneud hyn.

"Does dim cyfraniadau yn ddyledus gan unrhyw weithwr sydd ddim yn aelod o'r gronfa bellach."