Canolfan iechyd Aberteifi gam yn nes

Disgrifiad o'r llun, Bydd gwasanaethau ar gyfer cleifion allanol yn parhau yn Ysbyty Aberteifi

Mi fydd gwaith ar ganolfan iechyd newydd yn Aberteifi yn dechrau yn fuan yn 2015.

Fis Rhagfyr daeth cyhoeddiad y bydd Ysbyty Aberteifi yn rhoi'r gorau i drin cleifion sydd ddim yn gleifion allanol o fis Mawrth ymlaen.

Ers Chwefror 28 mae gwelyau yn cael eu darparu gan gartrefi gofal yn y gymuned.

Mae llawer o wrthwynebiad wedi bod i'r penderfyniad yn lleol, ac fe gafodd deiseb gyda 11,042 o enwau ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Ionawr.

'Penseiri wedi eu penodi'

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud y bydd y ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau cleifion mewnol yn "sicrhau gofal diogel a chynaliadwy i gleifion yn y dyfodol".

Dywedodd eu prif weithredwr Trefor Purt: "Bydd gwaith yn dechrau ar y cyfleuster iechyd a gofal cymdeithasol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf a bydd yn welliant mawr.

"Rydym eisiau ei gwneud yn ganolfan ar gyfer gwasanaethau tu allan i ysbyty.

"Bydd gan y ganolfan newydd glinigau cleifion allanol, canolfan ar gyfer meddygon teulu a nyrsys ardal, diagnosteg, ffisiotherapi a fferyllfa. Mae penseiri eisoes wedi cael eu penodi.

"Does dim cynlluniau i gau Ysbyty Aberteifi nes mae'r gwasanaethau newydd yn eu lle."