Cyhoeddi ail ran adroddiad datganoli
- Cyhoeddwyd
Dylid datganoli'r system gyfiawnder i Gymru, gam wrth gam, yn 么l adroddiad ar bwerau'r Cynulliad.
Fe ddylai llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o bwerau'r heddlu, meddai Comisiwn Silk, yn ogystal 芒 rhagor o bwerau dros ynni.
Mae'r yn galw am ddatganoli cyfiawnder ieuenctid ar unwaith ac am edrych ar pa mor ymarferol fyddai ddatganoli carchardai a gwasanaethau prawf.
Dylai arolwg o agweddau eraill y system gyfiawnder gael ei gwblhau erbyn 2025.
Roedd y rhan fwyaf o dystiolaeth o blaid datganoli'r heddlu yn gweld y cynllun fel ffordd i ddod 芒'r gwasanaeth yngh欧d 芒 gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Ond mae'n dweud na ddylid datganoli cyfrifoldeb dros yr Asiantath Drosedd Genedlaethol (NCA), na phwerau yngl欧n ag arestio, holi a chyhuddo rhai dan amheuaeth, os nad yw cyfraith droseddol yn cael ei ddatganoli, hefyd.
Er bod yr adroddiad yn dweud fod angen rhagor o Aelodau Cynulliad, dydy'r ddogfen ddim yn manylu ar nifer.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi dweud y bydd rhai o'r argymhellion yn cael eu gweithredu cyn 2015.
Aelodau Cynulliad
Fe arweinodd yr adroddiad cyntaf at ragor o bwerau treth a benthyg i Lywodraeth Cymru.
Wedi arolwg blwyddyn o hyd, roedd canfyddiadau'r comisiwn yn cynnwys:
Bod y cytundeb presennol yn rhy gymhleth i bobl ddeall pwy oedd gan y p诺er;
Bod angen i lywodraethau a sefydliadau weithio'n well gyda'i gilydd;
Bod cefnogaeth gref dros ddatganoli rhagor o bwerau.
Mae'r ail adroddiad yn cynnig amserlen "realistig" ddeng mlynedd o hyd - yn cynnwys deddfau ar 么l yr etholiad cyffredinol nesaf - a 61 o argymhellion i greu "cytundeb datganoli clir a chadarn".
Dylai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros ynni gynyddu o brosiectau 50MW i rai 350MW.
Diffinio pwerau
Mae'r adroddiad hefyd yn argymell newid y ffordd mae pwerau'r Cynulliad yn cael eu diffinio.
Byddai model pwerau a gedwir yn 么l - system debycach i'r Alban - yn rhestru'r pwerau sydd heb eu datganoli, nid y rhai sydd wedi eu datganoli.
Yn 么l cefnogwyr, byddai hyn yn gwneud pwerau'r cynulliad yn gliriach ac yn haws i'w deall.
Meddai cadeirydd y Comisiwn, Paul Silk: "Mewn cyfnod pan fo materion cyfansoddiadol tua brig yr agenda yn y Deyrnas Unedig, yr ydym wedi cytuno ar argymhellion a fydd yn darparu setliad datganoli sefydlog a chadarn ei seiliau, ac addas ar gyfer y dyfodol.
"Bydd yn rhoi setliad parhaol i Gymru a fydd yn caniat谩u i benderfyniadau gael eu gwneud mewn ffordd ddemocrataidd ac atebol.
"Drwy raglen ddeng mlynedd o ddiwygio graddol, bydd yn creu democratiaeth gryfach yng Nghymru, ac yn dod 芒 Chymru yn nes at batrwm gwledydd datganoledig eraill y DU.
"Pleser o'r mwyaf gennym felly yw cyflwyno ein hadroddiad, y cytunwyd yn unfrydol yn ei gylch, i Lywodraeth y DU ei weithredu."
Mwy o eglurdeb?
Mae'r Athro Richard Wyn Jones, cadeirydd y prosiect Undeb Sy'n Newid yn cytuno y byddai system o bwerau wedi eu cadw yn well ar gyfer Cymru.
Meddai: "Mae hwn yn fodel o ddatganoli fydd yn darparu llawer mwy o eglurdeb yngl欧n 芒 pha bwerau sydd wedi eu datganoli i Gymru.
"Mi wnaiff hyn symleiddio'r broses o ddatganoli, nid yn unig ar gyfer gwleidyddion, ond ar gyfer cymdeithas sifil a'r cyhoedd yn gyffredinol."
Ond mae'r sefydliad gwrth-ddatganoli Y Gwir Gymru, gafodd ei sefydlu er mwyn brwydro o blaid pleidlais Na yn refferendwm 2011, yn honni fod y newidiadau yn "annilys".
Mewn datganiad, fe ddywedon: "Ddwy flwyddyn ar 么l diwrnod y refferendwm, mae'n anhygoel gweld comisiwn yn argymell bob un o'r newidiadau radical roedden ni wedi eu rhagweld ar 么l pleidlais Ie, gan gynnwys y model o bwerau wedi eu cadw.
"Mae'r setliad datganoli yn mynd i gael ei ehangu'n sylweddol ymhell tu hwnt i be wnaeth 35% o etholwyr gytuno iddo n么l ar ddydd Iau, 3 Mawrth 2011.
Rhagor o argymhellion
Ymysg rhai o argymhellion eraill yr adroddiad, mae datganoli rhagor o bwerau dros reilffyrdd a phorthladdoedd, a chynnig i roi pwerau deddfu i Lywodraeth Cymru dros bolisi d诺r.
Mae'n dweud y dylai pwerau rheoleiddio darlledu aros yn San Steffan. Er hyn, mae'r adroddiad yn argymell creu corff datganoledig o fewn Ymddiriedolaeth y 大象传媒, ac yn dweud y dylai nawdd llywodraeth San Steffan i S4C gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal, mae'r comisiwn yn credu y dylai lywodraeth y DU barchu dymuniad y Cynulliad i newid ei enw i Senedd, petai hynny'n cael ei benderfynu gan yr aelodau.
Dydy'r adroddiad ddim yn argymhell y dylid rhoi unrhyw bwerau'n 么l i San Steffan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012