大象传媒

Ymateb gwleidyddol i argymhellion ail ran Comisiwn Silk

  • Cyhoeddwyd
Adroddiad
Disgrifiad o鈥檙 llun,

David Jones (chwith) yn derbyn yr adroddiad gan Paul Silk

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi dweud y bydd rhai o argymhellion Comisiwn Silk yn cael eu gweithredu cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ond bydd newidiadau sydd angen deddfwriaeth newydd yn gorfod aros tan ar 么l hynny.

Mae ail ran adroddiad y comisiwn yn argymell datganoli'r system gyfiawnder i Gymru'n raddol yn ogystal 芒 chyfrifoldeb dros fwy o brosiectau ynni.

Dywedodd Mr Jones: "Mae'r adroddiad yma'n codi cwestiynau hanfodol bwysig am lywodraethiant Cymru o fewn y Deyrnas Unedig. Felly mae ond yn iawn i ni gymryd amser i ystyried yn llawn bob un o'r argymhellion a'u hoblygiadau.

"Fe fyddwn ni'n ystyried gwneud rhai o'r newidiadau mae'r comisiwn wedi eu hargymell yn ystod y cyfnod seneddol yma ond does dim digon o amser ar 么l i weithredu unrhyw newidiadau sydd angen deddfwriaeth newydd."

Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi dangos "ei hymrwymiad clir i ddatganoli, dro ar 么l tro".

'Ffordd newydd'

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y bydd ei lywodraeth yn ystyried argymhellion y Comisiwn Silk yn ofalus cyn ymateb.

Dywedodd: "Rwy'n falch o record y llywodraeth yma yn gweithredu dros Gymru, gan ddod 芒 datganoli pellach iddi.

"Mae'r pwerau treth a benthyg rydym yn eu datganoli i'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn golygu rhoi mwy o allu iddyn nhw wella'r economi ac mae adroddiad heddiw yn gwneud argymhellion sy'n cynnig ffordd newydd ar gyfer y dyfodol.

"Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a chydweithwyr eraill o fewn y llywodraeth yn ystyried pob un o'r argymhellion yn ofalus."

'Sail'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi croesawu holl ganfyddiadau'r adroddiad ac wedi dweud: "Mae hwb i rym yr adroddiad oherwydd bod y comisiwn, sydd 芒'i aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r pedair plaid wleidyddol, yn unfrydol yn ei argymhellion."

Ychwanegodd: "Rwyf wrth fy modd bod gweledigaeth glir Llywodraeth Cymru ar gyfer setliad cyfansoddiadol hirdymor i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig ddatganoledig wedi bod yn sail i argymhellion y comisiwn i Lywodraeth y DU.

"Bydd sicrhau setliad o'r fath ond yn cryfhau'r Undeb a lle Cymru ynddo."

Dywedodd ei fod yn falch o weld yr adroddiad yn argymell symud tuag at system o "bwerau wedi eu cadw" o ddatganoli ar gyfer Cymru, yr un fath 芒'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Ar hyn o bryd mae rhestr o feysydd sydd wedi eu datganoli i Gymru.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd, hefyd yn croesawu'r argymhelliad, gan ddweud bod y setliad presennol yn "ddryslyd, yn gymhleth, ac yn creu anfodlonrwydd".

Ond dyw Plaid Cymru ddim yn credu bod yr adroddiad yn mynd yn ddigon pell mewn rhai meysydd.

'Rhwystredig'

Dywedodd Mr Llwyd: "Tra ein bod yn croesawu'r ffaith fod y Comisiwn yn derbyn safbwynt Plaid Cymru y dylid datganoli heddlua, mae'n rhwystredig gweld cyn lleied o gynnydd ar greu deddfwriaeth gyfreithiol Gymreig.

"Mae cyfyngu ar rym y Cynulliad dros ganiat芒d cynllunio i brosiectau sy'n cynhyrchu 350 MW neu lai yn peri pryder. Gyda grym dros Ystadau'r Goron hefyd i aros yn Llundain, mae Cymru mewn safle ble fo ganddi gyfoeth o adnoddau naturiol ond gallu cyfyngedig i'w defnyddio er budd ein pobl.

"Ni ddylai unrhyw genedl 芒 chyfoeth o ynni fod yn gartref i filoedd o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd fel Cymru."

'Cyfeiriad delfrydol'

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams wedi dweud bod yr argymhellion yn rhoi "cyfeiriad delfrydol ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru".

Meddai hefyd: "Ymhob rhan o'r broses, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn pwyso er mwyn dod a mwy o atebolrwydd a chyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru.

"Rydym hefyd yn credu nad yw'r model presennol o ddatganoli yn addas at y diben; mae hyn yn cael ei ddangos gan y cynnydd yn nifer yr achosion yn yr "Uchel Lys.

"Mae'n amser ar gyfer sefydlu model newydd sy'n diffinio'n glir beth sydd wedi ei ddatganoli, a beth sydd heb - mae angen eglurder ac rydym yn croesawu'r ffaith bod y comisiwn wedi galw am hyn."

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Rydw i'n talu teyrnged i waith clodwiw y comisiwn yn llunio dau becyn o argymhellion er mwyn gwella llywodraethiant ac atebolrwydd democrataidd yng Nghymru.

"Dylai pob plaid wleidyddol astudio'r argymhellion yma mewn manylder, gyda'r bwriad o sicrhau consensws trawsbleidiol ar y ffordd ymlaen."

Sefydliad sy'n newid

Mae Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn dweud ei bod hi'n croesawu'r argymhelliad dros nifer yr ACau yn enwedig.

Ychwanegodd: "Bydd symud i fodel o bwerau a gedwir yn 么l yn helpu i chwalu peth o'r ansicrwydd o ran r么l a chyfrifoldebau'r Cynulliad. Bydd yn fodd inni ddeddfu'n fwy effeithiol ac yn fwy hyderus.

"Yn hanfodol, bydd yn rhoi inni sylfaen ddeddfwriaethol debyg i Senedd yr Alban, lle nad oes yr un bil, hyd yn hyn, wedi cael ei ddwyn gerbron y Goruchaf Lys gan un o swyddogion cyfraith y DU i gadarnhau'r hawl i ddeddfu mewn maes penodol.

"Rwyf hefyd yn falch o weld bod y Comisiwn yn cytuno 芒 mi y dylai fod hawl gennym i ddewis ein henw ni - enw sy'n cyfleu yn well ein statws fel corff seneddol aeddfed.

"Gyda phwerau deddfu llawn, a chyda'r cyfrifoldebau ariannol y byddwn yn eu defnyddio am y tro cyntaf yn y Cynulliad nesaf, mae'n bryd cydnabod bod y sefydliad democrataidd hwn yn wahanol i'r un a etholwyd gyntaf ym 1999."