Cais i brif-weithredwr ad-dalu taliadau anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Sir Penfro yn gofyn i'w Prif Weithredwr dalu miloedd o bunnau yn 么l yn dilyn penderfyniad archwilwyr bod taliadau ychwanegol i'w gyflog yn anghyfreithlon.
Mewn cyfarfod arbennig, penderfynodd cynghorwyr i ofyn i Bryn Parry Williams ac un swyddog arall, sydd heb ei enwi, i dalu'r arian yn 么l.
Mae'n nhw'n gofyn i gyfanswm o 拢 拢45,506 gael ei dalu.
Cafodd taliadau pensiwn eu rhoi yn uniongyrchol i'r ddau er mwyn osgoi trethi.
Daeth ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru i'r canlyniad bod y taliadau yn anghyfreithlon.
Yn gynharach eleni dywedodd SAC bod cynghorau Sir Penfro a Chaerfyrddin wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy adael i Mr Parry Jones a prif weithredwr Caerfyrddin, Mark James, dynnu'n 么l o'r cynllun pensiwn er mwyn osgoi taliadau treth.
Dywedodd yr archwilydd bod y penderfyniadau i adael i swyddogion gael y taliadau, ac yna'r weithred o wneud y taliadau, yn anghyfreithlon am sawl rheswm.
Mae Mr James wedi camu o'r neilltu tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Ym mis Mawrth, roedd cyfarfod llawn o gyngor Sir Penfro i fod i bleidleisio ar gynnig i wahardd Mr Parry Jones, ond gwrthododd nifer o gynghorwyr yn dilyn honiadau bod canlyniad y bleidlais wedi ei bennu yn barod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014