Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Taliadau cyngor: 'Dim tystiolaeth o droseddau'
Mae Heddlu Sir Gaerloyw wedi cadarnhau nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod troseddau wedi'u cyflawni mewn cysylltiad 芒 thaliadau i swyddogion cynghorau Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Roedd yr heddlu wedi'u galw i ymchwilio i'r sefyllfa wedi i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ionawr gasglu bod taliadau i uwch-swyddogion y ddau awdurdod yn "anghyfreithlon".
Penderfynodd Heddlu Dyfed Powys bod angen ymchwilio i'r mater gan ei fod o ddiddordeb i'r cyhoedd i sefydlu a oedd troseddau wedi'u cyflawni ai peidio.
Gan fod y llu hwnnw'n cydweithio 芒'r ddau awdurdod lleol dan sylw, fe benderfynon nhw drosglwyddo'r mater i Heddlu Sir Gaerloyw.
Ond mewn datganiad, dywedodd Heddlu Sir Caerloyw eu bod wedi cynnal ymchwiliad gwrthrychol ac annibynol o'r dystiolaeth, ac nad oeddynt wedi dod o hyd i unrhyw beth a oedd yn awgrymu bod troseddau wedi'u cyflawni.
Ar sail hynny, meddai'r datganiad, fyddai'r heddlu ddim yn mynd 芒'r mater ymhellach.
'Derbyn y casgliadau'
Cadarnhaodd yr heddlu fod y ddau gyngor wedi cael gwybod am y penderfyniad.
Mewn ymateb, dywedodd y cynghorydd Kevin Madge, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Rwy'n falch fod yr heddlu wedi casglu nad oedd unrhyw dystiolaeth o droseddu. Roeddwn wastad gant y cant yn sicr mai dyma fyddai'r achos, ond mae o fudd i bawb fod hyn wedi cael ystyriaeth annibynnol a bod y cyhoedd nawr wedi cael y sicrwydd sy'n angenrheidiol a dyledus.
"Rwy'n gobeithio y bydd pawb nawr yn derbyn casgliadau'r ymchwiliad diduedd hwn ac y gallwn fynd yn 么l at ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig - darparu gwasanaethau o ansawdd i drigolion Sir Caerfyrddin."
Ym mis Ionawr, dywedodd Archwilydd Cymru, Anthony Barrett, fod cyfanswm o dros 拢100,000 wedi cael ei wario gan y cynghorau yn anghyfreithlon.
Mewn dau adroddiad damniol, dywedodd Mr Barrett nad oedd gan yr un o'r ddau gyngor y p诺er i roi taliadau ariannol i'r prif weithredwyr, Mark James a Bryn Parry Jones, a swyddogion eraill, yn hytrach na chyfraniadau pensiwn, a hynny oherwydd rhesymau treth.