Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor i ymweld 芒'r T欧 Crwn cyn penderfyniad terfynol
Mae cynghorwyr yn Sir Benfro wedi cytuno na fydd penderfyniad am d欧 crwn dadleuol yn cael ei wneud cyn iddyn nhw ymweld 芒'r safle.
Cafodd y t欧, Pwll Broga, ei adeiladu yng Ngland诺r ger Crymych heb ganiat芒d cynllunio.
Roedd y perchnogion, Megan Williams a'i phartner Charlie Hague, wedi cyflwyno cais cynllunio 么l-weithredol ar 么l i'r cyngor ddweud ei fod yn amharu ar yr olygfa leol.
Roedd disgwyl i gynghorwyr wneud penderfyniad terfynol ddydd Mawrth, ond cytunodd y cynghorwyr i ymweld 芒'r t欧 ym mis Gorffennaf cyn penderfynu.
Dim ond deunyddiau lleol wnaeth Mr Hague, sy'n gerflunydd, eu defnyddio i adeiladu'r t欧 ac mae'r waliau wedi eu gwneud o wellt a'r to o wair.
Mae'r t欧'r drws nesa i'r pentref gwyrdd Lammas lle mae nifer o gartrefi bychan wedi eu dylunio er mwyn bod yn hunangynhaliol.
Mae 大象传媒 Cymru'n deall bod swyddogion y cyngor wedi argymell bod y cais yn cael ei wrthod am fod yr adeilad yn ddatblygiad preswyl heb gyfiawnhad.