大象传媒

Lynette White: cyhoeddi adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Lynette WhiteFfynhonnell y llun, PA

Mae ymchwiliad i gwynion yn erbyn swyddogion yr heddlu oedd yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd wedi dod i'r casgliad nad oedd yna unrhyw ymddygaid troseddol.

Mae'r adroddiad wedi canfod o blaid tua un allan o bob chwech o'r 386 cwynion ddaeth i law.

Ond ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o gamymddwyn difrifol gan swyddogion yr heddlu.

Mae manylion adroddiad Operation Dalecrest yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau.

Hwn yw'r ymchwilaid diweddaraf i fethiannau Heddlu De Cymru yn achos llofruddiaeth Ms White yn 1988.

Methiant achos

Heddlu Dyfnaint a Chernyw wnaeth gynnal yr ymchwiliad a hynny ar 么l methiant achos llys yn erbyn wyth o gyn swyddogion Heddlu'r De.

Fe gafodd yr achos - y mwyaf erioed yn ymwneud 芒 llygredd o fewn yr heddlu ym Mhrydain - ei ddirwyn i ben gan y barnwr yn Rhagfyr 2011.

Cafodd dedfrydau di-euog eu cofnodi yn achos pob un o'r cyn swyddogion yn yr achos.

Cafodd yr achos ei gynnal ar 么l i'r Llys Ap锚l benderfynu yn 1990 fod tri dyn o Gaerdydd - Stephen Miller, Tony Paris a Yusef Abdullahi - wedi eu carcharu ar gam. Cafodd eu dedfrydau eu diddymu yn 1992.

Yn 2003, cafodd y llofrudd ei ddal o ganlyniad i dechnoleg DNA. Fe wnaeth Jeffrey Gafoor gyfaddef iddo drywanu Ms White i farwolaeth yn dilyn ffrae.

Honiadau

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud 芒 chwynion am yr ymchwiliad i'r modd wnaeth y swyddogion gwreiddiol ymdrin 芒'r llofruddiaeth.

Roedd y cwynion yn cynnwys nifer o honiadau difrifol fel cynllwynio, dweud celwyddau yn y llys a dinistrio tystiolaeth.

Fe gafodd 402 o gwynion eu cyflwyno, ac o'r rhain cafodd 386 eu hymchwilio.

Cafodd y rhan fwyaf eu gwrthod, ond penderfynwyd bod 67 - 17.4% - yn dal d诺r.

Roedd ychydig dros hanner o'r rhain yn ymwneud 芒'r modd yr oedd cofnodion yn cael eu cadw, a'r modd mae tystiolaeth yn cael ei rannu.

Roedd y cwynion eraill yn ymwneud 芒 mechn茂aeth a chwynion llai difrifol.

Dim tystiolaeth

Dywed yr adroddiad nad oedd dim o'r cwynion gafodd eu derbyn yn cynnwys "unrhyw dystiolaeth o ymddygiad troseddol na chamymddwyn".

Yn 么l yr adroddiad doedd dim tystiolaeth o "ymddygiad troseddol nag o unrhyw bwysau yn cael ei roi ar unrhyw swyddog tu fewn na thu allan i'r ymchwiliad."

Dywedodd Matt Jukes, dirprwy brif gwnstabl Heddlu'r De fod y llu yn disgwyl y bydd yna angen gweithredu ar 么l yr adroddiad.

Ond ychwanegodd Mr Jukes fod yn rhaid i hyn gael ei ystyried yng nghyd-destun yr holl adroddiad ac nad oedd yna "unrhyw dystiolaeth o gamymddwyn na gwneud cam - ni chafodd y mwyafrif o gwynion eu derbyn."

Dywedodd y byddai'r llu yn edrych ar y cwynion gafodd eu derbyn a'r hyn sydd wedi cael ei ddysgu.