Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
T欧 crwn 'i'w ddymchwel' ar 么l colli ap锚l
Mae'n bosib y bydd rhaid i d欧 crwn gafodd ei adeiladu yn Sir Benfro heb ganiat芒d cynllunio gael ei ddymchwel ar 么l i'r cyngor sir wrthod cais cynllunio 么l-weithredol.
Fe adeiladodd Megan Williams a Charlie Hague eu cartref, Pwll Broga, drwy ddefnyddio deunyddiau lleol yng ngardd eu rhieni yng Nglandwr, ger Crymych, yn 2012.
Roedd dros 100,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn cefnogi'r cwpl.
Llynedd fe gollon nhw ap锚l yn erbyn penderfyniad y cyngor sir i ddymchwel y t欧, gan fod yr arolygydd wedi penderfynu ei fod yn amharu ar yr olygfa.
Roedd swyddogion y cyngor wedi awgrymu gwrthod y cais cynllunio 么l-weithredol, am ei fod yn torri rheolau datblygu tai yng nghefn gwlad.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, roedd naw o'r cynghorwyr wedi cefnogi'r argymhelliad i wrthod y cais, a phedwar yn erbyn.
Yn 么l y pwyllgor cynllunio, doedd dim cyfiawnhad dros ddatblygiad o'r fath yng nghefn gwlad, ac roedd yn mynd yn groes i bolisiau cynllunio.
Er nad oedd yr effaith weledol yn fawr, dywedodd y cynghorydd Rob Summons, yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am Gynllunio a Chynaliadwyedd, fod yr adeilad yn "erydu cymeriad gwledig yr ardal ac yn cynrychioli math anghynaliadwy o ddatblygiad yn nhermau'r pellter o gyfleusterau dydd i ddydd".
"Mae cynllunio yn broses drwyadl gyda chanllawiau clir ac os ydym ni am weithredu'n deg mae'n rhaid i bawb gadw at hynny," ychwanegodd.
Mae Mr Hague a Ms Williams wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.