大象传媒

Dyfodol y cwricwlwm yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ystafell ddosbarthFfynhonnell y llun, PA

Mi fydd beth a sut y mae plant yn dysgu yn yr ysgol yn newid yn gyfangwbl o fewn y degawd nesaf.

Ddydd Mercher mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad annibynnol yn edrych ar ddyfodol y cwricwlwm gan academydd o'r Alban Graham Donaldson, ac mae'n galw am newidiadau sylfaenol a phellgyrhaeddol.

Mae'r Athro Donaldson wedi bod wrthi ers blwyddyn, yn mynd drwy gannoedd o ddarnau o dystiolaeth ac yn ymweld 芒 dwsinau o ysgolion.

Ac mi allai'r canlyniadau olygu newidiadau sylfaenol i sut y bydd ein plant yn derbyn eu haddysg.

Ond os oedd rhywrai yn gobeithio am set glir, orffenedig o ganllawiau newydd - fydd yn dweud yn union beth ddylai athrawon ei wneud yn y dyfodol - fe fyddan nhw'n cael eu siomi.

Beth mae'r adroddiad yn ei wneud ydi rhoi strwythur newydd i ddangos sut, a beth, fydd disgyblion Cymru yn ei ddysgu yn y dyfodol.

Rhifedd a llythrennedd

Ar hyn o bryd mae rhifedd a llythrennedd yn mynd ar draws pob elfen o'r cwricwlwm, ac wedi eu gweu mewn i bob gwers.

Wel, yn 么l yr Athro Donaldson, mi fydd angen trydedd elfen yn y dyfodol: cymhwysedd digidol - fydd yn delio 芒 mwy na dim ond sut i ddefnyddio cyfrifiadur. Mi fydd yn ymwneud 芒 sut mae creu rhaglenni cyfrifiadurol a chreu gwefannau.

Felly ar hyn o bryd, mi welwch chi'n reit aml wers addysg gorfforol yn cynnwys rhifedd drwy fesur cyflymder cyfartalog rhywun sy'n rhedeg.

Wel yn y dyfodol, efallai y bydd disgybl yn creu rhaglen ar gyfrifiadur i ddangos symudiad rhewlif mewn gwers ddaearyddiaeth.

Hyblygrwydd

Mi fydd y manylion yn nwylo'r penaethiaid ysgol.

A hynny oherwydd bod yr Athro Donaldson o'r farn bod y cwricwlwm fel ag y mae rwan yn rhy gyfyng. Felly mae o am i'r cwricwlwm newydd fod yn fwy hyblyg fel y gall ysgolion deilwra'r newidiadau i siwtio eu hanghenion a'u cryfderau nhw eu hunain.

Ond mi fydd elfennau o reoli canolog yn parhau.

Er enghraifft, mae yna argymhelliad i newid y syniad o bynciau unigol.

Yn eu lle mi fydd chwech o feysydd dysgu newydd:

Mi fydd iechyd a lles yn cynnwys pethau fel addysg gorfforol, addysg am berthynas iach a thaclo gordewdra.

Yn y dyniaethau, mi fydd disgyblion yn astudio daearyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth, economeg, yn ogystal ag addysg grefyddol, fydd yn cael mwy o sylw.

Celf, drama a cherddoriaeth fydd ymhlith pynciau'r celfyddydau mynegiannol.

Tra bo pynciau'r tri maes arall - ieithoedd a chyfathrebu, mathemateg a rhifedd, a gwyddoniaeth a thechnoleg - yn weddol amlwg.

Y syniad ydi cael ffin llai amlwg rhwng y pynciau, er y bydd y disgyblion yn dal i sefyll arholiadau ar wahan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Athro Donaldson wedi bod wrthi ers blwyddyn, yn mynd drwy gannoedd o ddarnau o dystiolaeth ac yn ymweld 芒 dwsinau o ysgolion.

Newid y system brofi?

Mae'r Athro Donaldson hefyd o'r farn y bydd angen newid sut y bydd ysgolion yn gosod profion, a pham.

Mae'r awgrym yn weddol amlwg fod profi pob plentyn rhwng pump ac 14 oed, yn ei gorwneud hi braidd.

Felly dyna ni, casgliad go gynhwysfawr o newidiadau fyddai - os c芒n nhw eu gwireddu - yn arwain at y newid mwyaf i'n hysgolion ers cyflwyno'r cwricwlwm ar ddiwedd yr wythdegau.

Y cam nesaf ydi i'r llywodraeth drafod gyda'r athrawon, rhieni a phlant i weithio ar y manylion.

Mae disgwyl i'r broses honno gymryd rhwng pum mlynedd a degawd - felly peidiwch 芒 disgwyl gweld dim newid yn syth bin.

Ond mi allai hynny fod yn broblem hefyd.

Mae disgwyl i bob athro ac athrawes fedru gweu sut mae gosod rhaglen ar gyfrifiadur i bob gwers yn ofyn mawr iawn, fydd ddim yn hawdd i'w wneud. Heb os, mi fydd angen peth wmbreth o hyfforddiant.

Ac o dderbyn fod y cwricwlwm presennol yn rhy anhyblyg, ydi hi'n deg disgwyl i athrawon sydd wedi gweithio felly ers chwarter canrif - i fod yn ddigon creadigol i allu creu system newydd? Ydyn nhw'n barod ar gyfer yr her?

Dyna mae'r adroddiad yn ei ofyn, mae'r ateb yn eithriadol o bwysig.