Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arian i daclo'r camddefnydd o alcohol
Fe ddywed Llywodraeth Cymru bod y camddefnydd o alcohol yn costio 拢109 miliwn i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru bob blwyddyn.
Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd, dywedodd y dirprwy weinidog iechyd Vaughan Gething bod 34,000 o fynediadau i ysbytai Cymru yn cael eu hachosi gan y camddefnydd o alcohol.
Dywedodd Mr Gething hefyd bod ffigyrau'n dangos fod 42% o oedolion yng Nghymru yn yfed mwy na'r canllawiau swyddogol o alcohol o leiaf unwaith yr wythnos.
O ganlyniad fe fydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi bron 拢50 miliwn yn ystod 2015-16 er mwyn ceisio mynd i'r afael 芒'r niwed sy'n gysylltiedig 芒'r camddefnydd o alcohol a chyffuriau.
Dywedodd Vaughan Gething: "Mae tystiolaeth fod camddefnyddio alcohol yn arwain at ystod o niweidiau iechyd a chymdeithasol, yn enwedig i'r lleiafrif sylweddol sy'n yfed gormod heb sylweddoli eu bod yn niweidio'u hunain.
"Er bod nifer y bobl yng Nghymru sy'n marw oherwydd alcohol wedi bod yn mynd i lawr ers 2008, mae'r ffaith fod pobl yn dal i farw am eu bod yn yfed gormod o alcohol yn atgof o'r heriau sy'n ein hwynebu wrth daclo'r broblem."