70 mlynedd ers trychineb awyren Lland诺

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Y teithwyr cyn dechrau ar eu siwrne o Iwerddon

70 mlynedd yn 么l i'r diwrnod, ar 12 Mawrth 1950, bu farw 80 o bobl mewn damwain awyren yn Lland诺 ym Mro Morgannwg. Ar y pryd hon oedd damwain awyren waetha'r byd.

Roedd hi ar y ffordd adre' o Ddulyn yn llawn cefnogwyr Cymru yn dathlu buddugoliaeth dros Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad; y tro cynta' iddyn nhw ennill y Goron Driphlyg ers 39 mlynedd.

Syrthio o flaen teuluoedd

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Fe syrthiodd yr awyren ganllath o bentref Tresigin

Am 3.30 brynhawn Sul roedd teuluoedd a ffrindiau wedi ymgynnull ar faes awyr Lland诺 i groesawu eu perthnasau adref.

Dyma'r llygaid dystion yn gweld yr awyren Avro Tudor V yn hedfan yn anarferol o isel, cyn dringo'n serth, troi ar ei chefn a syrthio i'r ddaear, gan hollti'n ddau ddarn.

Daeth 60 ambiwlans yno i gludo'r cyrff i safle'r Llu Awyr yn Sain Tathan gerllaw.

Mewn cae ar fferm teulu Betti Thomas y syrthiodd yr awyren. Roedd hi'n 23 oed ar y pryd, ac bu'n cofio'r digwyddiad:

"Rwy'n cofio'n union sut dywydd oedd hi. Mi oedd hi'n ddiwrnod clir ag awel tawel Mawrth yn yr aer.

"Ro'n i'n seiclo n么l adre ar 么l helpu yn yr ysgol Sul gerllaw, pan weles i growd o bobl bwys y fferm. Mi nes i ollwng fy meic a dechre cerdded lan y l么n i'r t欧 pan ddaeth dyn t芒n atai.

"Dyma fe'n gwrthod gadael i mi gerdded ymhellach, cyn i fi ddweud - 'ond fy nh欧 i yw hwnna!'

"Mi roedd y ddamwain wedi digwydd tra 'mod i yn yr ysgol Sul, ond petai'r awyren wedi cwympo eiliadau ynghynt mi fuasai wedi bwrw'n t欧 ni. Mi roedd fy chwaer yn cofio'r peth i'r byw, ac mi gafodd dipyn o effaith arni am flynydde wedyn.

"Rwy'n cofio'r goroeswyr yn aros yn ein t欧 ni am baneidie yn hwyr i'r nos; yng nghanol newyddiadurwyr o ar draws Prydain. Mi wnes i gyment o baneidie'r noson honno."

"Arhosodd yr awyren yn y cae am rai wythnose, ac rwy'n cofio clywed s诺n y gwynt yn mynd drwy'r propelor wrth i mi geisio cwympo i gysgu."

Bu oedfa goffa i'r meirw ar 28 Mawrth yn Eglwys Sant Ioan, Caerdydd.

Tri yn goroesi

Ffynhonnell y llun, Treftadaeth Cymuned Llanelli

Disgrifiad o'r llun, Mi aeth un o'r goroeswyr ymlaen i fod yn Llywydd URC 1975-76

Tri dyn a oroesodd y ddamwain. Y ddealltwriaeth yw eu bod wedi eu hachub gan eu bod yn nghefn yr awyren, gyda seddi arbennig oedd wedi'u bolltio i'r llawr.

Roedd y cefnogwyr eraill mewn cadeiriau oedd wedi'u clipio i gorff yr awyren.

Un o'r rhai a gerddodd allan yn fyw oedd Handel Caradoc Rogers o Lanelli, aeth ymlaen i fod yn Llywydd Undeb Rygbi Cymru yn 1975-76.

Fe ddisgrifiodd cyn-gapten Cymru Clive Rowlands, Handel fel "dyn hyfryd, annwyl a dyn rygbi i'r carn... mi oedd yn gadeirydd am flynydde gyda rygbi Llanelli.

"Ond soniodd e fyth am y ddamwain yn Lland诺. O'dd e byth yn siarad am y peth.

"Trafeilies i 'da fe ar daith gynta' Cymru i Seland Newydd yn 1969. Fe oedd y rheolwr cyntaf i fynd 芒 th卯m Cymru draw 'na."

Roedd 'na gyfeiriad at brofiad Handel Rogers yng nghylchgrawn Rygbi Cymru ym Medi 1975:

"Heb os, cafodd ei brofiad yn y ddamwain ofnadwy yn Lland诺 effaith anhygoel ar ei weledigaeth.

"Fe ddaeth ei gariad at rygbi ag ef yn agos at farwolaeth. Roedd yn benderfynol o lenwi'i fywyd."

Roedd brawd yng nghyfraith Handel, Gwyn Anthony hefyd ymysg y rhai a oroesodd y ddamwain.

Colli saith ffrind

Disgrifiad o'r llun, Y diweddar Mel Thomas oedd un o'r tri a oroesodd y ddamwain

Y trydydd oedd Melville Thomas, oedd yn 25 ar y pryd, a'r unig aelod o d卯m rygbi Llanharan i oroesi.

Bu farw ym mis Mai 2011 yn 86 ond mewn digwyddiad i nodi 60 mlynedd ers y damwain, dywedodd:

"Fe golles i saith ffrind yn y ddamwain.

"Ro'n i yn y t欧 bach pan ddigwyddodd e, dyna sut nes i oroesi.

"Ond fe ges i'n anafu'n wael. Fe dreulies i bedwar mis yn yr ysbyty yn Sain Tathan. Fe dores i nhrwyn, fy ng锚n ac roedd fy nghefn yn wael. Fe 'nes i gracio fy mhenglog hefyd. O'dd y doctoriaid yn poeni y bydden i'n mynd yn ddall."

Clybiau Rygbi'n Cofio

Disgrifiad o'r llun, Bathodynnau'r clybiau yn cofio'r meirw

Ymhlith y rhai a gollodd eu bywydau oedd chwech aelod o glybiau rygbi Abercarn, saith o Lanharan a thri o Risga.

Erbyn hyn mae pedwar symbol ar fathodyn clwb Llanharan wedi'u rhannu gan groes ddu i gofio'r dynion fu farw. Gosodwyd mur arbennig i'w coff谩u tu 么l i far y clwb.

Ar fathodyn Abercarn RFC mae propelor i nodi'r golled a llechen yng nghlwb rygbi Risga.

Ac ym mhentref Tresigin, dau gan llath o'r man lle syrthiodd yr awyren mae cofgolofn i nodi'r digwyddiad.

Disgrifiad o'r llun, Cofgolofn ger lleoliad y ddamwain

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 大象传媒 Cymru Fyw ym mis Mawrth 2015.

Hefyd o ddiddordeb: