Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Philip Pullman yn cefnogi ymgyrch awduron Cymru
Mae'r awdur Philip Pullman wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru Fyw y dylai'r llywodraeth ailystyried toriadau i gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r Cyngor yn wynebu toriad o bron 11%.
Ond mae Mr Pullman, dreuliodd gyfnod o'i fywyd yng Nghymru cyn ysgrifennu'r gyfres enwog His Dark Materials, yn dweud bod "pob math o weithgaredd diwylliannol wastad wedi bod angen cymhorthdal o ryw fath".
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae toriadau gan Lywodraeth y DU yn golygu bod "penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud er mwyn diogelu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt fwyaf".
'Anghyfiawn'
Dywedodd yr awdur: "'Dwi'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ail feddwl ac yn sylweddoli pa mor ddwfn yw ei chyfrifoldeb tuag at y Gymraeg a'r diwylliant sydd wastad wedi ei hamlygu mewn ffordd mor gyfoethog."
Mewn neges ar Twitter nos Lun, dywedodd ei fod eisiau i'w enw gael ei ychwanegu at yr ymgyrch i atal y toriadau.
Mae cannoedd o awduron a chyhoeddwyr llyfrau wedi ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant, Ken Skates, yn rhybuddio bod y toriadau sy'n cael eu hystyried yn "anghyfiawn".
Cafodd Mr Pullman ei addysgu yng Nghymru ac mae'n dweud fod hynny wedi gwneud iddo garu s诺n y Gymraeg.
"Roedd hi'n naturiol i fi gael fy nghymell i gefnogi ysgrifenwyr Cymru, cyhoeddwyr ac eraill sydd yn pryderu am gynhyrchu llyfrau yng Nghymru yn eu protest yn erbyn y toriadau sy'n cael eu cynnig i gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru.
"Y gwir yw bod pob math o weithgaredd diwylliannol wastad wedi bod angen cymhorthdal o ryw fath. Mae rhai o gampau mwyaf dychymyg dynoliaeth wedi eu cynhyrchu nid i'w gwerthu yn y farchnad ond i blesio'r tywysog hwn, y pab yna, yr ymerawdwr hwn.
"Mewn cyfnod o ddemocratiaeth os ydyn ni eisiau caniat谩u i ddychymyg flodeuo mae'n rhaid i gymhorthdal fod ar gael mewn ffordd ddemocrataidd."
'Penderfyniadau anodd'
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod toriad i'r cyllid sy'n dod gan drysorlys y DU yn golygu bod "penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud er mwyn diogelu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt fwyaf".
Maent hefyd wedi dweud bod trafodaethau yn parhau gyda'r Cyngor Llyfrau i sicrhau'r ffordd orau i ddiogelu swyddi a chefnogi'r diwydiant cyhoeddi, a bod arian ychwanegol wedi ei roi i'r cyhoeddwr ar gyfer gwaith cynnal a chadw brys ar eu pencadlys a chanolfan dosbarthu.