Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canolfan syrffio'n ailagor
Mae canolfan syrffio yn Nolgarrog, Sir Conwy, yn ailagor y penwythnos hwn, ychydig fisoedd wedi iddi orfod cau'n fuan am y gaeaf oherwydd problemau technegol.
Pan wnaeth Surf Snowdonia gau wyth wythnos yn gynt na'r disgwyl fis Hydref y llynedd, fe gollodd 60 o weithwyr tymhorol eu gwaith, ynghyd ag wyth aelod parhaol o staff.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi gwario 拢1m ar welliannau dros y gaeaf.
Fe ychwanegon nhw eu bod wedi cyflogi 72 aelod o staff a bod 34 o'r rheiny wedi gweithio i'r cwmni yn 2015.
Mae llawer o'r buddsoddiad newydd wedi cael ei wario ar fecanwaith y moduron sy'n gyrru'r lag诺n 300 metr sy'n creu tonnau.
Dywedodd Andy Ainscough, rheolwr-gyfarwyddwr Surf Snowdonia Adventure Parc: "Y peth pwysicaf roedden ni eisiau ei gywiro dros y gaeaf oedd dibynadwyedd ein peiriant creu tonnau, ac rydym ni'n ffyddiog ein bod ni wedi gwneud hynny.
"Fe gafodd y chwe wythnos diwethaf eu clustnodi ar gyfer profi'r moduron ac edrych ar ba mor wydn ydyn nhw o dan bwysau.
"Rydym ni'n hapus iawn gyda'u perfformiad ac mae'n wych ein bod ni'n gallu dechrau'r tymor newydd gyda chymaint o hyder."
Ymysg y gwaith arall gafodd ei gyflawni dros y gaeaf mae llwybr rhwystrau newydd a gwelliannau i lety a chyfleusterau arlwyo.