Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Talu teyrnged i deuluoedd Hillsborough cyn g锚m b锚l droed
Mae cefnogwyr p锚l droed wedi bod yn talu teyrnged i'r ymgyrch Cyfiawnder i'r 96 cyn g锚m Abertawe yn erbyn Lerpwl.
Cafodd 96 o bobl eu gwasgu i farwolaeth ar deras Leppings Lane yn stadiwm Hillsborough yn 1989.
Ers 27 o flynyddoedd mae teuluoedd y rhai fu farw wedi bod yn ymgyrchu i gael gwybod beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw.
Ar y pryd roedd rhai papurau newydd a'r heddlu wedi beio'r cefnogwyr, cyhuddiadau gafodd eu profi wedyn i fod yn gelwyddog.
Ddydd Mawrth mi benderfynodd y rheithgor yn y cwest bod y rhai fuodd farw wedi'u lladd yn anghyfreithlon.
Roedd munud o gymeradwyaeth cyn i'r g锚m ddechrau am hanner dydd yn Stadiwm Liberty.
Bu farw dau o Gymru yn y digwyddiad y diwrnod hwnnw - John McBrien o Dreffynnon a David Brown (oedd yn cael ei adnabod fel Steve Brown) o Holt, ger Wrecsam.
Dywedodd llefarydd Clwb Abertawe cyn y g锚m: "Mae pawb wedi gweld y dewrder a chryfder gan y teuluoedd yn ystod y 27 mlynedd diwethaf.
Mae'n rhaid bod y cyfnod wedi bod yn un anodd iawn iddyn nhw ac mi ydyn ni yn meddwl, fel gweddill y gymuned bel droed bod eu brwydr wedi bod yn un cyfiawn.
Fel clwb p锚l droed, roedden ni eisiau sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda nhw a dangos ein cefnogaeth i'r teuluoedd hynny wnaeth golli eu hannwyliaid."