Yr olwynion yn dal i droi

Mae hi'n gyfnod gofidus i Carwyn Jones, 30 oed o Bontsian ger Landysul. Y llynedd cafodd wybod gan feddygon bod ei ddwy aren yn methu.

Mae Carwyn yn s么n wrth Cymru Fyw am y sialens o jyglo ei waith yn y garej 芒'r tripiau cyson i'r ysbyty.

"Ro'n i'n gallu gweld bod y doctoriaid yn edrych yn eitha' shocked, yn ofidus," meddai Carwyn.

"Y peth cyntaf aeth drwy fy meddwl oedd 'pam fi, pam nawr?' Achos ro'n i newydd ddechrau busnes fy hun rhai misoedd ynghynt, ac roedd gen i ofn beth oedd o fy mlaen i.

"Gysgais i ddim winc y noson honno, roedd cymaint o gwestiynau yn mynd rownd yn fy mhen i. Ro'n i'n dweud wrth y teulu y byddai popeth yn iawn ond go iawn doedd gen i ddim syniad."

Dechreuodd ei broblemau pan oedd yn dal yn ei glytiau, meddai. Mae'n byw gyda chlefyd siwgr ers oedd yn ddwy oed, a gall y clefyd hefyd arwain at broblemau 芒'r arennau.

"Dyw'r clefyd byth wedi fy stopio i rhag bwrw mlaen gyda fy mywyd. Dwi wedi chwarae rygbi i sawl t卯m lleol, gyrru, a gweithio ers i mi adael yr ysgol."

Ond cafodd ei daflu oddi ar ei echel ym mis Tachwedd y llynedd, ar 么l cyfnodau o salwch cyson.

Disgrifiad o'r llun, Mae Carwyn wedi llwyddo i gadw ei fusnes teiars i fynd er gwaetha' ei salwch

'Rhywun yn gorfod marw'

"Dim ond pethau bach fel clustiau tost, poen yn fy nghefn, lot o beswch. Ond ro'n i'n meddwl mai gweithio'n yr oerfel oedd ar fai," meddai.

"Ond wnes i ddechre mynd yn brin fy anadl, a chael trafferth gwneud fy ngwaith, a chael gwaith dala lan gyda fy nith fach."

Ar 么l apwyntiad yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, cafodd esboniad.

"Ro'n i ar dialysis ar y pryd, a dwi'n cofio'r doctor yn holi os hoffen i gael trawsblaniad aren a'r pancreas, a doedd dim rhaid meddwl ddwywaith," meddai.

"Byddai hyn yn golygu bywyd heb glefyd y siwgr, ac aren newydd. Ond mae meddwl am gael trawsblaniad wastad yng nghefn fy meddwl. Beth os na wneith yr aren weithio'n iawn, a bydd angen trawsblaniad arall?

"Ond dwi'n trio cadw'n bositif, achos dwi'n gwybod bod rhywun yn rhywle yn gorfod marw er mwyn i mi gael y fraint o gael bywyd arall."

18 o dabledi

Cymaint yw ei ddiolch i'r doctoriaid a'r nyrsys, mae e bellach yn cynnig gostyngiad pris yn ei waith fel dyn ffitio olwynion i weithiwyr GIG.

"Ers i fi fod yn s芒l, dwi wedi cael lot o help gan nyrsys i ddod i delerau gyda fy salwch, maen nhw'n gymaint yn fwy na rhyw rai sy'n trio eich gwella chi. Maen nhw'n gwrando ar eich gofidion.

"Maen nhw wastad yna, wyneb yn wyneb neu ben arall y ff么n, felly dyma fy niolch bach i iddyn nhw am eu gwaith."

Blinder yw'r her mwyaf y mae'n ei wynebu o ddydd i ddydd, yn enwedig ar 么l gorffen ei driniaeth dialysis dyddiol.

"Dwi fel arfer mor wan, allen i fynd adre' i'r gwely, ond mae'n rhaid i fi gadw fynd. Hefyd mae gen i 18 o dabledi i'w cymryd mewn diwrnod felly rhaid cofio amdanyn nhw," meddai.

"Mae lot o bethau a chymhlethdodau ynghlwm 芒 bod yn ddiabetig - nid dim ond ffaelu bwyta siocled a phethau melys yw e!

"Gollais i fy ngolwg yn y ddwy lygaid chwe mlynedd yn 么l ond wrth lwc dwi wedi cael fy ngolwg yn 么l."

Croesi bysedd

Ag yntau'n parhau i weithio llawn amser, mae sawl taith yr wythnos yn mynd i'r ysbyty er mwyn cael dialysis.

"Y cam nawr yw i drio gwneud hyn adre', a fyddai'n rhoi mwy o ryddid i mi yn y gwaith. Dwi'n gobeithio gallu ei wneud tra mod i'n cysgu, yn lle rhedeg i'r ysbyty dair gwaith yr wythnos, a cholli boreau o waith."

O ran y trawsblaniad, mae'n anodd rhagweld y dyfodol, meddai, a bydd rhaid aros i weld.

"Mae e'n waiting game nawr. Am fy mod i fod i cael pancreas yr un pryd, dwi ffaelu cael donor byw. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i fi gael match.

"Falle bydda i'n aros am chwe mis, falle blynyddoedd. Ond bydd e werth yr aros achos mi fydd yn trawsnewid fy mywyd.

"Sa i'n gwybod beth yw bywyd heb glefyd y siwgr, a dwi'n croesi bysedd y bydd yr aren yn gweithio ac yn rhoi blynyddoedd o iechyd i fi."

Stori a lluniau: Llinos Dafydd