Cynnau'r fflam ym Maldwyn
- Cyhoeddwyd
Mae'n un o gwmniau theatr amlycaf Cymru. Ers ei sefydlu dros 30 mlynedd yn 么l mae Cwmni Theatr Maldwyn wedi bod yn llwyfannu sioeau cerdd poblogiadd i gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru.
Bu'r cwmni yn teithio yn gynharach yn 2017 gyda chynhyrchiad o Cadw'r Fflam yn Fyw. Bydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu ar Radio Cymru ar 糯yl y Banc, 28 Awst.
Roedd Alwyn Si么n yn rhannu t欧 gyda dau o sylfaenwyr y cwmni, y diweddar Derec Williams a'r prifardd Penri Roberts, pan oedd y ddau'n athrawon ifanc yn Y Drenewydd.
Gyda help rhai o luniau aelodau'r cwmni, bu'n rhannu ei atgofion efo Cymru Fyw.
Creu'r 'drindod anhygoel'
Pan oedd y Steddfod yn dod i Faldwyn yn 1981 roedd Derec a Penri ar y pwyllgor drama ac roedden nhw'n llawn syniadau. Dyma nhw'n dweud 'mae'n rhaid inni gael drama gerdd neu rhywbeth' a dyma'r pwyllgor yn troi rownd ac yn dweud iawn, 'sgwennwch un'!
Chafodd y ddau ddim llawer o ddewis ac mi ddaru nhw fynd ati a chreu'r drindod anhygoel yma efo Linda Gittings a sgrifennu Y Mab Darogan a gafodd ei berfformio'n llwyddiannus iawn yn y Steddfod honno ym Machynlleth.
Roedd na gemeg rhwng y tri. Roedden nhw mor wahanol a Linda fel ryw reffari rhwng Derec a Penri. Ddaru nhw erioed ffraeo - ddaru nhw anghydweld dwn im faint ar lot o agweddau ond o'r anghydweld yne roedd y creadigrwydd arbennig yma yn codi.
Camu i'r adwy
Ychydig wythnosau cyn y perfformiad cyntaf mi ddaru'r hogyn oedd yn chwarae'r brif ran, sef Owain Glynd诺r, gyhoeddi fod o ddim yn mynd i allu chwarae'r rhan oherwydd amgylchiadau personol.
Er fod Derec mor gerddorol a thalentog, doedd o'n fawr o ganwr, felly dim ond Penri druan oedd yn gallu camu i'r adwy a dyna sut daeth Penri i fod yn Owain Glynd诺r.
Dro arall roedd y cwmni ar y ffordd i'r de i berfformioond doedd y ferch oedd yn chwarae rhan Marged, gwraig Owain Glynd诺r, ddim yn medru perfformio.
Doedd dim y ffasiwn beth ag understudy gynnon ni ond dyma lais bach o gefn y bys yn dweud 'Dwi'n gwbod y caneuon' gan hogan ifanc swil oedd yn dal yn yr ysgol.
A mi wnaeth hi berfformiad penigamp y noson honno. Nerys Jones o Lanfair Caereinion oedd hi, a aeth ymlaen i fod yn gantores fyd enwog.
Cario'r fflag!
Roedden nhw'n cynnal gwrandawiadau fel tase nhw'n castio i ffilm MGM. Roedden nhw reit uchelgeisiol. Dwi'n cofio gwrandawiad yn Ysgol y Gader, wnes i ddim d'eud wrthyn nhw mod i'n mynd.
Roedd pawb yn dod ymlaen ar y llwyfan a hwythau'n gofyn 'Be 'dech hi'n mynd i ganu'.
Dyma fi'n mynd ymlaen a dyma nhw'n dechre chwerthin a deud 'Al, paid a boddro!'" Roedden nhw'n gwybod mod i ddim yn gallu canu ond mi ddaru nhw ddweud y baswn i'n cael cario'r fflag!
Does na neb yn y cwmni yn fwy na'r cwmni - mae hynny wedi bod gan Derec, Penri a Linda erioed. Cwmni yden ni - fydda' i'n dweud ein bod ni'n fwy o deulu. Roedd Der yn dweud yn aml iawn - teyrngarwch, presenoldeb a phrydlondeb.
Cyn bwysiced, os nad yn bwysicach, ydy'r unigolion sydd wedi cael yr hyder a meithrin eu doniau yn y cwmni ar hyd y blynyddoedd ac wedi mynd n么l i'w hardaloedd wedyn a chael yr hyder i gychwyn ac i gynnal gweithgareddau yno. Ddaru ni ddim dychmygu byse fo mor llwyddiannus ar 么l yr holl flynyddoedd.
A chwarae teg i Linda a Penri, roedd colli Derec yn andros o golled - ei frwdfrydedd, ei ddoniau - ond maen nhw wedi dal i fynd. Ac mae Branwen, Osian a Meilir efo ni hefyd.
A dyne fyse Derec eisiau. Mi fedra' i ei glywed o'n deud r诺an, 'cariwch ymlaen!'
Cadw'r Fflam yn Fyw, 大象传媒 Radio Cymru, Dydd Llun, 28 Awst, 10:00
Am fwy o hen luniau'r cwmni