Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffrindiau sy'n werth y byd
Mae Elin Williams o Borthmadog yn dweud fod ei chi tywys Jazzy wedi ei helpu i ddod dros iselder, ei gwneud yn fwy hyderus a'i helpu i ennill gradd dosbarth cyntaf yn y brifysgol.
Ychydig iawn mae'r ferch 22 oed yn gallu ei weld ac fe gafodd gi tywys yn 2014 pan oedd hi yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caer yn astudio Llenyddiaeth Saesneg.
Mae Jazzy wedi "newid ei bywyd" meddai Elin sy'n dioddef o'r cyflwr genetig Lebers Congenital Amorosis.
Er ei bod yn gweld yn normal fel plentyn bach fe ddirywiodd ei golwg pan oedd hi'n 14 oed ac ychydig iawn mae'n gallu ei weld r诺an.
Daeth Jazzy i bob darlith efo Elin a dod ar y llwyfan efo hi yn ei seremoni graddio.
"Dwi ddim yn gwybod a fyswn i wedi graddio hebddi hi," meddai. "Dwi'n teimlo lot mwy hyderus i dr茂o am waith efo hi ac mae gen i lot mwy o ffrindiau.
"Dim oherwydd be' mae hi'n ei wneud ond oherwydd yr hyder mae hi wedi ei roi i fi i siarad efo pobl, mynd allan a chyfarfod efo pobl a thr茂o pethau newydd.
"Mae'r hyder mae hi wedi ei roi i fi wedi newid fy mywyd i.
"Ro'n i reit shei a distaw cyn ei chael hi achos nad oedd gen i ddigon o hyder i siarad efo pobl mewn darlithoedd ac yn y blaen ond pan mae gynnoch chi gi efo chi mae pawb isho siarad efo chi - maen nhw'n bethau cymdeithasol ofnadwy.
Dod dros iselder
Mae gan g诺n ddeallsurwydd emosiynol meddai Elin.
"Mi wnes i ei ffeindio hi reit anodd mynd i'r ysgol a nes i ddioddef o ychydig bach o depression.
"Roedd hi'n help mawr i fi allu dod dros hynna achos mae c诺n yn gallu pigo fyny ar eich emosiynau chi gymaint.
"Ella bod nhw ddim yn gallu dweud pam eich bod chi'n teimlo rhywbeth, ond dwi'n meddwl eu bod nhw'n gallu gwybod be rydych chi'n deimlo ac yn gallu newid eu hymddygiad nhw eu hunain i gyd-fynd efo hynna," meddai Elin.
Rhyddid
Doedd Elin ddim yn si诺r sut byddai ci tywys yn ffitio i mewn efo bywyd myfyrwyr i ddechrau ond ar 么l cyfarfod pobl ifanc eraill oedd 芒 ch诺n tywys a gweld eu bod yn byw bywydau llawn fe wnaeth y penderfyniad i gael un.
Ar 么l poeni y byddai'n ormod o gyfrifoldeb ac yn ei stopio rhag gwneud pethau neu deithio fe wnaeth ddarganfod mai fel arall oedd hi,
"Os ydach chi'n barod i dderbyn y cyfrifoldeb mae'n rhoi mwy o ryddid ichi. Mae gen i lot mwy o hyder i wneud pethau ar ben fy hun r诺an, efo hi.
"Ro'n i'n teimlo mod i'n gallu ymuno efo gymaint mwy o gymdeithasau efo hi achos oni ddim yn gorfod dibynnu ar rywun i ddod efo fi a dod i fy n么l i ac yn y blaen.
"Roedd diwrnod graddio yn arbennig iawn ac yn fwy arbennig am mod i wedi gallu cerdded ar y llwyfan yn annibynnol efo Jazz, oedd yn dangos mod i wedi gallu gwneud y radd i gyd ar ben fy hun."
Helpu defnyddwyr cadeiriau olwyn
Mae c诺n yn gallu helpu pobl 芒 chyflyrau neu anableddau eraill hefyd.
Mae elusennau yn rhoi c诺n cymorth i helpu plant sydd ar y sbectrwm awstisic drwy eu helpu i ddangos eu hemosiyanu a phobl mewn cadeiriau olwyn hefyd.
Mae Derek Humphreys o Gaernarfon yn cael anhawster cerdded ers iddo gael llawdriniaeth ar ei gefn ar 么l dioddef o TB pan oedd yn ei arddegau.
Roedd yn arfer rhedeg cwmni dosbarthu papurau newydd ac yn crwydro'r wlad yn canu mewn deuawd canu gwlad o'r enw Montana Blue.
Ond gwaethygodd ei gyflwr yn 1999 pan oedd Derek yn eu bumdegau ac roedd yn rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn.
Byw bywyd hirach
Roedd yn teimlo'n negyddol iawn am ei fywyd nes i'w wraig ei berswadio i wneud cais am gi gan elusen yn 2013.
Ar 么l cyfnod o hyfforddiant fe ddaeth adre gydag Olga ychydig ddyddiau cyn ei ben-blwydd yn 69.
"Dwi'n meddwl bod Olga wedi adio o leia blwyddyn neu ddwy at y 'mywyd i," meddai "Dwi'n teimlo lot gwell ers pan mae hi efo fi, er mod i'n dal i deterioratio yn ara deg.
"Ond 'di hynna ddim yn dod i fewn iddi r诺an - dwi allan gymaint efo hi ac yn gwneud gymaint dwi ddim yn cael amser i feddwl am bethau.
"Mae hi wedi gwneud gwahaniaeth mawr imi - fyddwn i ddim yn mynd allan hanner gymaint, doedd gen i ddim 'mynadd, ddim yn gweld y pwynt. Ond unwaith daeth Olga dwi allan bob diwrnod efo hi am o leiaf awr a hanner bob dydd.
"Mae hi'n lyfli o gi a mor gyfeillgar efo plant a phawb.
Mae Olga yn helpu Derek mewn amryw o ffyrdd o amgylch y t欧 - agor a chau drysau, codi pethau mae'n eu gollwng ar lawr, n么l y post a n么l dillad gl芒n a chadw ei ddillad budron yn y fasged olchi.
Mae hi hefyd yn tynnu ei fenyg oddi ar ei ddwylo yn y gaeaf ac yn ei helpu i ddadwisgo cyn mynd i'w wely.
"Does na ddim dwywaith fod 'na rywbeth arbennig am g诺n - maen nhw mor gall," meddai Derek.
Helpu myfyrwyr dan straen
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mai 8-14 2017 fe wnaeth Undeb Myfyrwyr Bangor gynnal diwrnod ymlacio gyda ch诺n i helpu myfyrwyr sy'n teimlo dan bwysau oherwydd eu harholiadau.
Maen nhw wedi bod yn trefnu Ystafell Ymlacio gyda Ch诺n ers rhai blynyddoedd i roi cyfle i fyfyrwyr gwrdd 芒 pherchnogion c诺n tywys ac ymlacio'r un pryd.
Mae'r undeb wedi synnu gan yr ymateb meddai'r cydlynydd cyfathrebu Ffion Jones, gyda channoedd o fyfyrwyr yn dod i'r digwyddiad ac yn ciwio, ac ail-giwio, i ddod i mewn.
"Mae 'na ystadegau sy'n dangos bod c诺n yn gallu bod yn de-stressor," meddai Ffion Jones.
"Rydyn ni'n cynnal y dyddiau yma ar adegau o straen ac mae'r myfyrwyr wrth eu boddau yn gofyn cwestiynau i'r perchnogion ac yn chwarae efo'r c诺n.
"Mae gan lot o fyfyrwyr g诺n adre ond gan eu bod nhw i ffwrdd oddi wrthyn nhw mae'n nhw'n colli eu c诺n.
"Mae iechyd meddwl ein myfyrwyr yn bwysig i'r undeb ac mae hwn yn un o'r digwyddiadau i helpu efo hynny sy'n ein synnu ni bob tro gan yr ymateb."