Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢4m ar gyfer gorsaf drenau newydd yn Bow Street
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi arain i adeiladu gorsaf drenau newydd yn Bow Street, Ceredigion.
Dywedodd yr Adran Trafnidiaeth y bydd y cynllun yn derbyn 拢3.945m ar gyfer adeiladu'r orsaf, ynghyd 芒 maes parcio ac arhosfan bws.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais i Lywodraeth San Steffan am dri chwarter cost y prosiect 拢6.8m, sef y mwyafrif y bydden nhw'n gallu ei roi.
Dywedodd yr Adran Trafnidiaeth mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fyddai sicrhau bod gweddill yr arian mewn lle.
Mae Bow Street yn un o bum lleoliad ar draws Cymru a Lloegr fydd yn cael gorsafoedd newydd - gyda'r pedwar arall yn Lloegr.
Yn 么l yr Adran Trafnidiaeth, bydd yr orsaf yn cael ei ddefnyddio fel gwasanaeth parcio a theithio ar gyfer gorsafoedd Aberystwyth a'r Borth.
Roedd gan Bow Street orsaf rheilffordd brysur yn ystod yr 19eg Ganrif, ond daeth y teithio i ben yn 1965 yn dilyn toriadau Beeching.
Ers hynny mae nifer wedi ymgyrchu i ailagor yr orsaf yno.
Y gobaith yw y bydd yr orsaf yn agor erbyn mis Mawrth 2020.