Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bwrw 'mlaen 芒 chynllun gorsaf fws newydd Caerdydd
- Awdur, Owain Evans
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Bydd Cyngor Caerdydd yn bwrw 'mlaen 芒 chynllun dadleuol i godi fflatiau myfyrwyr uwchben gorsaf fysiau newydd y ddinas.
Roedd y cynghorydd Neil McEvoy wedi galw am adolygu'r cynllun, sy'n rhan o ddatblygiad Sgw芒r Canolog, gan ddadlau nad oedd fflatiau myfyrwyr yn addas ar gyfer safle mor bwysig.
Mewn cyfarfod o bwyllgor craffu'r cyngor nos Fercher fe benderfynodd cynghorwyr y dylai penderfyniad y cabinet sefyll.
Ar 么l clywed tystiolaeth gan Mr McEvoy a'r aelod cabinet sydd 芒 chyfrifoldeb dros y cynllun, Russell Goodway, fe benderfynodd y pwyllgor yn unfrydol bod angen bwrw 'mlaen 芒'r cynllun er gwaetha'r amheuon yngl欧n 芒 chael fflatiau myfyrwyr ar y safle.
'Safon isel'
"Dwi'n gallu clywed pobl yn fy ward i nawr, a'r hyn maen nhw'n ei ddweud yw clatsiwch bant," meddai'r cynghorydd Ed Stubbs.
"Dwi'n rhannu'r pryderon am fflatiau myfyrwyr," meddai'r cynghorydd Adrian Robson, "ond os mai dyma'r ffordd i gael y maen i'r wal mae'n rhaid i ni fwrw 'mlaen."
Ar ddiwedd y cyfarfod dywedodd Mr McEvoy bod y cyngor wedi "gwerthu mas i gyfalafwyr sydd am wneud pres cyflym".
Ychwanegodd y byddai'r ddinas yn colli arian ar drethi busnes o ganlyniad ac roedd yn siomedig hefyd y byddai fflatiau myfyrwyr o safon isel yng nghanol ein prifddinas.
Er iddyn nhw gefnogi'r cynllun nododd y pwyllgor y byddai'n well ganddyn nhw weld swyddfeydd na fflatiau myfyrwyr pe bai hynny'n bosibl.
Roedd cynlluniau'r datblygwyr, Rightacres - gafodd eu cymeradwyo gan y cyngor ym mis Mawrth - yn cynnwys llety i fyfyrwyr, siopau, fflatiau preifat, maes parcio a swyddfeydd.
Ond mewn adroddiad i gynghorwyr ym mis Gorffennaf dywedodd Rightacres ei fod eisiau newid y fflatiau preifat a'r swyddfeydd yn fwy o lety ar gyfer myfyrwyr.
'Opsiwn diog'
Fe wnaeth cabinet y cyngor gymeradwyo'r newid, ond dywedodd Mr McEvoy cyn y cyfarfod bod fflatiau i fyfyrwyr yn "opsiwn diog i gyngor sydd wedi rhedeg allan o syniadau yn llwyr".
"Mae amser a lle ar gyfer fflatiau myfyrwyr ond nid nawr yw'r amser, ac yn sicr nid Ardal Fenter Canol Caerdydd yw'r lle," meddai.
"Man ar gyfer swyddi yw fanno."
Y bwriad yn wreiddiol oedd i'r orsaf agor ym mis Rhagfyr 2017, ond mae'r cyngor wedi rhybuddio y bydd angen cais cynllunio newydd ar gyfer unrhyw newidiadau.