Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pont Y Bermo: Network Rail i fuddsoddi 拢20m
Bydd Network Rail yn buddsoddi dros 拢20m ar welliannau i Pont Y Bermo, mae 大象传媒 Cymru yn ei ddeall.
Roedd tr锚n arbennig wedi teithio ar y llinell rhwng Yr Amwythig a Phwllheli ddydd Mawrth i nodi 150 mlwyddiant y bont.
Roedd locomotif yn tynnu cerbydau tr锚n Rivera Mark 1 yn mynd a theithwyr ar draws canolbarth Cymru i Bwllheli gan deithio dros y draphont hanesyddol.
Cafodd y bont ei agor yn 1867, ac mae wedi goroesi rhyfeloedd byd, ffrwydron m么r ac ymosodiad gan bryfed pren morol - sy'n dipyn o gamp o ystyried fod y mwyafrif o'r bont wedi ei gwneud o bren.
Buddsoddi
Yn siarad ar ddiwrnod y 150 mlwyddiant dywedodd Bill Kelly, prif swyddog gweithredol Network Rail Wales, ei fod yn "newyddion gwych" a fyddai'n sicrhau dyfodol y bont "am yr 150 mlynedd nesaf".
Ychwanegodd Mr Kelly: "Rydym yn cynllunio - ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y cynlluniau yn cael eu cymeradwyo ddydd Gwener - i wario dros 拢20m ar y bont rhwng 2019 a 2024.
"Felly mae hynny yn gyfnod cyffrous i ni, ac yn gyfnod cyffrous i'r bont ac i Reilffordd y Cambrian - mae'n newyddion gwych."