Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Honiadau pellach o gamdriniaeth gan fynach ar Ynys B欧r
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau pellach o gam-drin rhyw hanesyddol gan fynach ar Ynys B欧r.
Daw'r ddau honiad newydd yn dilyn adroddiadau gan 11 o fenywod fod y Tad Thaddeus Kotik wedi eu cam-drin ar Ynys B欧r, Sir Benfro yn ystod y 1970au a'r 1980au.
Dywedodd ditectifs fod yr honiadau newydd hefyd yn ymwneud 芒'r diweddar Dad Kotik dros yr un cyfnod.
Ddydd Mercher, ymddiheurodd yr abaty nad oedd yr honiadau gwreiddiol wedi eu trosglwyddo i'r heddlu.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys hefyd eu bod yn ymchwilio i honiad arall o ymosodiad rhyw gan ddyn oedd yn ymweld 芒'r ynys tua'r un cyfnod, ond sydd ddim yn byw yno.
Dywedodd swyddogion bod ymchwiliad gwahanol yn cael ei gynnal i'r honiad hwnnw, wedi i un o'r dioddefwyr gwreiddiol gyflwyno cwyn.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Yn dilyn yr adroddiadau diweddar o gam-drin rhyw ar Ynys B欧r, derbyniodd yr heddlu ddau adroddiad pellach o gam-drin rhyw ar 21 Tachwedd.
"Maen nhw'n ymwneud 芒 throseddau yn ystod yr un cyfnod (rhwng 1977 a 1987) a gyda'r un cyflawnwr Thaddeus Kotik.
"Mae'r troseddau hyn wedi eu cofnodi ac mae swyddogion mewn cysylltiad 芒'r dioddefwyr yn ystod yr ymchwiliad, ac er mwyn darparu cefnogaeth arbenigol."