Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw ar i Gymru 'arwain' ar gyfartaledd i fenywod
Fe allai, ac fe ddylai Cymru arwain y byd o ran sicrhau cyfartaledd i fenywod, yn 么l prif weithredwr elusen sy'n hybu cyfleoedd i ferched yn y gweithle ers 25 mlynedd.
Dywedodd Cerys Furlong bod "llawer wedi newid" ers sefydlu Chwarae Teg ond bod "llawer o waith eto i'w wneud cyn y gallai merched chwarae rhan gyflawn" o fewn economi Cymru.
Ychwanegodd bod angen gwneud mwy i gau'r bwlch rhwng cyflogau merched a dynion, gan fod y gwahaniaeth yn hyd at 30% mewn rhai sectorau.
Mae g诺yl arbennig yn cael ei chynnal yng nghanolfan Tramshed, Caerdydd ddydd Mawrth i ddathlu chwarter canrif ers sefydlu'r elusen.
Mae'r elusen sy'n cael rhywfaint o'i chyllid gan yr UE yn rhoi cymorth ymarferol i fenywod, gan gynnwys cyrsiau codi hyder ac uchelgais.
'Angen newid diwylliant'
Mae Chwarae Teg yn ymgyrchu ar faterion sy'n creu rhwystrau i ferched yn y gweithle, ac yn trefnu sesiynau mewn ysgolion yn herio stereoteipio ar sail rhyw.
Dywedodd Cerys Furlong: "Rwy'n credu'n gryf nad oes rhaid i anghyfartaledd ar sail rhyw fod yn anochel.
"Trwy gymryd y camau cywir i fynd i'r afael 芒 rhwystrau a heriau, fe allai Cymru arwain y byd yn y maes yma.
"Er mwyn i fenywod allu chwarae rhan gyflawn yn yr economi mae angen newid diwylliant."
Mae'r camau posib, meddai, yn cynnwys newid pwyslais fel bod dynion yn rhannu cyfrifoldebau gofalu am blant, a mwy o sylw i ferched sydd wedi llwyddo yn eu meysydd er mwyn ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl.
Be' sydd wedi newid mewn chwarter canrif?
- Ers i Chwarae Teg ddod i fodolaeth, mae canran y merched sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru wedi codi - o 61.7% yn 1992 i 70.6% yn 2017;
- Mae'r bwlch rhwng cyflogau dynion a merched wedi cau. Yn 1997 roedd cyflogau menywod yng Nghymru ar gyfartaledd 27.8% yn is na chyflogau dynion, oedd yn agos at y bwlch drwy'r DU o 27.5%;
- Nawr, mae merched yng Nghymru yn ennill ar gyfartaledd 14.8% yn llai na dynion, sy'n is na'r mae'r bwlch drwy'r DU sef 18.4%. Canran uwch o swyddi sector cyhoeddus yng Nghymru sydd i gyfrif am hynny, yn 么l Cerys Furlong;
- Mae merched yn dal yn llai tebygol o gael eu penodi yn uwch swyddogion a rheolwyr o fewn cyrff a busnesau, ac mae hynny'n cyfrannu mwy at y gwahaniaeth mewn cyflogau nag achosion lle mae dynion yn derbyn mwy o d芒l na merched am wneud yr un swydd;
- Yn y sector preifat, dim ond chwech o'r 100 prif gwmni yng Nghymru sydd 芒 phrif weithredwyr benywaidd;
- Mae dros 50% o fenywod Cymru yn gweithio yn y meysydd gweinyddu, addysg a iechyd mewn swyddi sy'n tueddu i fod 芒 chyflogau llai. 20% o ddynion sy'n gweithio yn y meysydd hynny;
- Mae merched hefyd yn fwy tebygol o weithio rhan amser mewn swyddi sy'n talu llai. Mae 80% o'r swyddi rhan amser yng Nghymru yn cael eu gwneud gan ferched;
- Ers 1992 mae canran y merched yng Nghymru sy'n aros gartref er mwyn gofalu am eu plant wedi gostwng o 20% i 10%.