Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ynys B欧r: Mwy o honiadau am bedoffiliaid
Mae Ynys B欧r oddi ar arfordir Sir Benfro wedi bod yn 'lloches ddiogel' ar gyfer pedoffiliaid, yn 么l ffynonellau sydd wedi bod yn siarad gyda 大象传媒 Cymru, gan ychwanegu fod angen "ymchwiliad llawn".
Honnir nawr fod dau o bedoffiliaid eraill wedi byw neu wedi ymweld 芒'r ynys ger Dinbych-y-pysgod yn y blynyddoedd diwethaf.
Fis diwethaf fe wnaeth 大象传媒 Cymru adrodd fod y Tad Thaddeus Kotik, mynach fu'n byw ar yr ynys am 45 o flynyddoedd, wedi cam-drin nifer o ferched yn y 1970au a'r 1980au.
Mae hi hefyd wedi dod i'r amlwg fod Paul Ashton, oedd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi symud i'r ynys yn 2004 tra ei fod a'r ffo o'r heddlu.
Fe fu'n byw yn yr abaty tan iddo gael ei arestio gan yr heddlu yn 2011.
Mae'r honiadau newydd am ddau o bedoffiliaid eraill sy'n gysylltiedig gyda'r ynys wedi dod o ffynonellau oedd yn byw ar yr ynys, neu oedd yn ymwelwyr cyson a'r lle.
Dywedodd un o'r ffynonellau fod Ynys B欧r yn cael ei "adnabod fel rhywle oedd yn lle diogel i droseddwyr rhyw".
"Mae'n ynys sydd ar y wyneb yn edrych fel lle tawel a chulfan heddychlon ond yn y b么n roedd yn lle dieflig," meddai'r ffynhonnell.
"Rwy'n gobeithio y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal."
Dyweodd Amanda Gearing, y newyddiadurwraig o Awstralia wnaeth ddatgelu hanes y Tad Kotik:
"Rwyf wedi clywed gan ddynes busnes oedd ar wyliau dros gyfnod o ddeg mlynedd ar ddechrau'r ganrif hon, fod ymwelwyr yn cael eu hannog i beidio 芒 siarad gyda'i gilydd na chwaith gyda thrigolion yr ynys.
"Dywedodd un ddynes wrthaf fod yna deimlad fod rhywbeth ofnadwy yno," meddai.
Un o'r rhai y credir oedd yn byw ar yn ynys am gyfnod i'w troseddwr rhyw John Cronin.
Y llall yw'r Parchedig John Shannon, sef offeiriad eglwys Dewi Sant ar yr ynys.
Mae Cronin wedi cael ei ddisgrifio fel un o'r troseddwyr rhyw mwyaf peryglus ym Mhrydain gan seiciatryddion.
Roedd yn euog o dros 50 o droseddau dros gyfnod o 25 mlynedd.
Fe wnaeth Shannon gyfaddef iddo lawrlwytho 740 o ddelweddau anweddus o blant. Cafodd ei garcharu am wyth mis yn 2011.
Fe wnaeth yr Abad, y Tan Daniel van Santvoort, ddweud fod Shannon wedi ymgymryd 芒'r swydd fel offeiriad yn 2008 a hynny am gyfnod dros dro.
Ychwanegodd fod hynny ar 么l i rai o'r trigolion ofyn am ailagor yr eglwys.
"Fe ddaeth e yma gyda geirda da a bu'n byw mewn bwthyn.
"Yn ystod y cyfnod daeth i'r amlwg nad oedd digon o waith ar gyfer offeiriad ar yr ynys ac fe adawodd yn 2009 ar 么l naw mis," meddai.
"Rydym yn deall yn ddiweddarach tra'n gweithio yn y DU i'r heddlu ymchwilio i droseddau ar y tir mawr ac i lys ei gael yn euog.
"Doedd ymchwiliad yr heddlu ddim yn ymwneud ag unrhyw honiadau o droseddau ar yr ynys, ac ni wnaeth yr heddlu gynnal unrhyw ymchwiliad ar yr ynys.
"Rydym yn deall nad oedd ganddo unrhyw droseddau yn ei erbyn pan ddaeth i'r ynys na chwaith pan adawodd."
Daw'r honiadau newydd ar 么l i hanes y Tad Thaddeus Kotik gael ei ddatgelu.
Roedd o wedi byw ar Ynys Byr o 1947 hyd ei farwolaeth yn 1992, gan gam-drin nifer o blant.
Ni wnaeth cyn Abad yr Ynys y Tad Robert O'Brien adrodd yr hanes i'r heddlu er iddo dderbyn cwynion gan ddioddefwyr yn dyddio n么l i 1985.
Fe wnaeth Abaty Ynys Byr dalu iawndal i chwech o fenywod gafodd eu cam-drin pan yn blant gan y Tad Kotik ac mae'r Abad presennol Gerardus 'Daniel' van Santvoort wedi ymddiheuro yn gyhoeddus am fethiant yr Abaty i roi gwybod i'r heddlu.
Mae adroddiadau fod y troseddwr rhyw Paul Ashton wedi cuddio ar yr ynys gan ddefnyddio'r ffug enw Robert Judd o 2004 tan iddo gael ei arestio yn 2001.
Yn 么l ffynhonnell roedd Ashton wedi byw ar yr ynys ar yr un pryd 芒 Cronin.
Mae o'n dweud i Cronin adael yr ynys ar frys yn 2009.
Dywedodd y Tad Daniel nad oedd yr Abaty yn gwybod am arhosiad honedig Cronin.
"Nid oes gennym unrhyw wybodaeth am y person hwn. Mae'r enw yn gwbl anghyfarwydd."