Heddlu Gogledd Cymru i ddefnyddio dronau mewn achosion
- Cyhoeddwyd
Heddlu Gogledd Cymru yw'r llu diweddaraf yng Nghymru i ddefnyddio dronau yn eu brwydr yn erbyn troseddu.
Mae 15 o swyddogion a staff wedi'u hyfforddi i ddefnyddio'r awyrennau di-beilot i gasglu delweddau i'w defnyddio mewn ymchwiliadau.
Mae hyn yn cynnwys chwilio am bobl sydd ar goll yn ogystal 芒 chasglu tystiolaeth mewn ymchwiliadau traffig ar y ffyrdd, a digwyddiadau troseddau mawr.
Cafodd dronau eu defnyddio'n ddiweddar i ymchwilio i d芒n yng ngwesty'r Gateway to Wales yn Queensferry.
Mae gan y t卯m ddwy awyren, sydd hefyd yn gallu cludo camera delweddu thermol - maen nhw eisoes wedi cael eu defnyddio i chwilio am bobl sydd ar goll, ac wrth ymchwilio i ddigwyddiadau yn ystod achos y llynedd.
Dywedodd yr Arolygydd Craig Jones o uned cynllunio gweithredol y llu eu bod yn hynod effeithiol wrth gasglu delweddau dros ardaloedd anodd neu dir sy'n anodd eu cyrraedd, ac yn helpu swyddogion i gael gwybodaeth yn gyflym ac yn ddiogel.
Dywedodd Stuart Millington o Wasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru fod y gallu i weld delweddau symudol o'r awyr mewn digwyddiadau yn ymwneud 芒 thanau yn "offeryn defnyddiol iawn".
Mae cytundeb gyda'r heddlu yn golygu y gall y gwasanaeth t芒n alw ar gynlluniau peilot yr heddlu er mwyn eu helpu i ddelio 芒 digwyddiadau pan fo angen.
Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard, fod y dronau'n declynnau cost effeithiol iawn wrth ymladd troseddau a helpu cymunedau.
"Mae'r gallu i lansio'r dronau mewn ychydig funudau yn helpu i achub bywydau a sicrhau tystiolaeth hanfodol os oes troseddu'n digwydd." meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
- Cyhoeddwyd5 Mai 2016