Dynes leol yn prynu papurau'r Y Cyfnod a'r Corwen Times
- Cyhoeddwyd
Dynes leol yw perchennog newydd dau bapur newydd yn ardal Y Bala a Chorwen.
Fe fydd Si芒n Teleri o Gefnddwysarn ger Y Bala yn yn cynhyrchu ei rhifyn cyntaf o bapur dwyieithog Y Cyfnod ar 1 Chwefror.
Hi hefyd fydd yn gyfrifol am y Corwen Times, ar 么l i'r perchennog ers 2013, Mari Williams, apelio am brynwr i'r ddau bapur.
Dywedodd Si芒n Teleri mai ei blaenoriaeth wrth gychwyn ar y gwaith "yw parhau o ble mae Mari yn gorffen".
"Wrth edrych i'r dyfodol, rwy'n edrych ymlaen am yr her newydd ac yn edrych ymlaen am sialens wahanol," dywedodd.
"Mae Mari wedi creu sylfaen arbennig a chadarn i'r papur, felly dim ond parhau i weithio ar hynny sydd rhaid."
Papurau'n 'ganolog i'r ardal'
Fe benderfynnodd Ms Williams i werthu'r busnes ym mis Hydref ar 么l derbyn swydd newydd yn golygu cylchgronnau'r Urdd.
Dywedodd bod dyfodol y papurau "wedi bod yn bryder mawr" iddi pan ddaeth i'r amlwg nad oedd modd cyfuno'r swydd honno a rhedeg y ddau bapur, a'i bod "wrth ei bodd" bod prynwr lleol wedi dod i'r fei.
Mae hynny, meddai, yn golygu bod modd trosglwyddo'r busnes yn ddi-dor o un perchennog i'r llall heb orfod symud swyddfa na newid manylion cysylltu.
Dywedodd: "Mae gan Si芒n gefndir cryf mewn codi arian a marchnata, a 'dwi'n si诺r y bydd yn cryfhau ochr fasnachol y busnes sy'n allweddol i barhad papurau sydd mor ganolog i'r ardal yma.
"Rydw i'n dymuno pob llwyddiant i Si芒n. Mi wn hefyd y bydd trigolion yr ardaloedd lleol yn gefnogol iddi hi fel y buon nhw i fi ar hyd y blynyddoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2014
- Cyhoeddwyd29 Mai 2013
- Cyhoeddwyd18 Mai 2013