Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carwyn Jones: 'Oedi a threth ar fai am gynnydd cost M4'
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi beio oedi, chwyddiant a Llywodraeth y DU am gynnydd yng nghost ffordd osgoi'r M4.
Clywodd pwyllgor Cynulliad yr wythnos diwethaf bod disgwyl i'r ffordd gostio dros 拢1.4bn ar 么l TAW.
Daw wedi cyhoeddiad fis diwethaf gan Lywodraeth Cymru am ymrwymiad i wario 拢135m ychwanegol i wella dociau Casnewydd, gan wthio costau'r cynllun i fyny 10% i 拢1.3bn.
Yn 2015, dywedodd Mr Jones na fyddai cost y ffordd "unman yn agos" at 拢1bn.
Yn sesiwn holi'r prif weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones bod y ffigwr wedi cynyddu oherwydd bod "mwy o oedi na'r disgwyl".
"Ond rydyn ni'n bwriadu sicrhau ein bod yn delio gyda'r broblem o dagfeydd ar yr M4," ychwanegodd.
Cafodd ei holi gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ofynnodd am roi uchafswm arian all gael ei wario ar gwblhau'r cynllun.
Ymatebodd Mr Jones: "Yn anffodus mae chwyddiant yn gwneud gwahaniaeth i'r ffigyrau ac yn ail mae Llywodraeth y DU yn codi tal TAW.
"Dyma her iddo, beth am fynd yn 么l i'w blaid a dweud 'peidiwch codi TAW ar y cynllun', fyddai'n arbed cannoedd o filiynau o bunnau?"
Dywedodd Mr Davies: "Heb TAW, a dyma geiriau eich gwas sifil yn y pwyllgor, mae cost y cynllun rhwng 拢1.3bn ac 拢1.4bn.
"Dim ond dwy flynedd yn 么l, roeddech chi'n ceisio argyhoeddi pobl y byddai'r cynllun yn costio 拢800m."
Mae'r cynllun yn destun ymchwiliad cyhoeddus ar hyn o bryd.