Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim gwrthwynebiad gan borthladd i ffordd liniaru'r M4
Mae un o'r prif grwpiau oedd yn gwrthwynebu ffordd liniaru newydd i'r M4 o gwmpas Casnewydd bellach yn barod i gefnogi'r cynllun 拢1.4bn.
Yn 么l Llywodraeth Cymru fe fydd cytundeb rhyngddyn nhw ac Associated British Ports, sydd berchen dociau Casnewydd, yn cael ei arwyddo'r wythnos hon.
Dywedodd bargyfreithiwr y llywodraeth, Morag Ellis wrth ymchwiliad cyhoeddus yn y ddinas ddydd Mercher ei fod yn "gam mawr ymlaen".
Daw'r cytundeb wedi i'r llywodraeth addo gwario 拢135m ar welliannau i'r dociau.
'Pont isel'
Byddai'r gwelliannau yn cynyddu cost y gwaith i 拢1.4bn, a golygu nad oes disgwyl i ffordd liniaru'r M4 agor nes 2024.
Y bwriad yw adeiladu traffordd 15 milltir (24km) a phont chwe l么n dros Afon Wysg er mwyn lleihau tagfeydd traffig o gwmpas twneli Bryn-glas.
Mae gan ABP statws arbennig sydd yn golygu y byddai eu gwrthwynebiad nhw i'r cynllun yn cario mwy o bwyslais yn yr ymchwiliad cyhoeddus.
Roedd rheolwyr dociau Casnewydd wedi rhybuddio y byddai'r bont dros yr afon yn torri ar draws eu safle nhw, ac na fyddai'n ddigon uchel i adael i'r llongau mwyaf basio oddi tani.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n codi uchder y bont arfaethedig, yn ogystal 芒 datblygu doc y de er mwyn lleddfu pryderon yngl欧n 芒 gallu'r cychod mwyaf i gyrraedd y porthladd.
Mae ABP wedi derbyn cynlluniau'r llywodraeth a dywedodd eu bargyfreithiwr Andrew Tait wrth yr ymchwiliad fod disgwyl i'r cytundeb gael ei arwyddo'n ffurfiol ddydd Gwener.
"Fel prif borthladd cargo cyffredinol Cymru, mae porthladd Casnewydd eisoes yn cyfrannu 拢173m y flwyddyn i economi Cymru," meddai'r cwmni mewn datganiad.
"Bydd y cytundeb felly'n diogelu swyddi a gwarchod ased o bwysigrwydd economaidd cenedlaethol."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y byddai cydweithio ag ABP ar yr isadeiledd yn arwain at fudd "i Gasnewydd ac ar draws Cymru".
Mae disgwyl i'r rheiny sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau newydd o gwmpas y dociau gael eu clywed yn yr ymchwiliad ar 27 Chwefror.