Gwasanaeth iechyd 111 'haws' i Gymru gyfan erbyn 2021

  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru

Bydd rhif ff么n newydd sy'n caniat谩u i gleifion gysylltu 芒'r gwasanaeth iechyd yn haws ar gael dros Gymru gyfan ymhen tair blynedd.

Mae'n golygu y bydd cleifion yn gallu cael gafael ar driniaeth, cymorth a chyngor y gwasanaeth iechyd drwy ddeialu un rhif - 111 - lle bynnag maen nhw'n byw.

Mae'r gwasanaeth eisoes ar gael yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ac yn Sir Gaerfyrddin, gyda rheolwyr yn dweud fod ymateb "gwych" wedi bod gan gleifion.

Yn 么l adolygiad annibynnol mae'r gwasanaeth wedi arwain at ostyngiad yn y galw am ofal brys ac wedi llwyddo i ryddhau ambiwlansys.

Ond mae 'na rybudd hefyd nad yw'r system "yn berffaith" ac na fydd yn "fwled aur" i daclo'r pwysau ar wasanaethau iechyd.

Sut mae'n gweithio?

Yn wahanol i 999, rhif ar gyfer achosion sydd ddim yn argyfwng yw 111.

Mae'n cyfuno dau wasanaeth sydd wedi gweithredu ar wah芒n yn y gorffennol:

  • Galw Iechyd Cymru - gwasanaeth cenedlaethol 24 awr y dydd ar gyfer cyngor iechyd cyffredinol, dan reolaeth y gwasanaeth ambiwlans;
  • Gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau, sy'n cael ei redeg gan fyrddau iechyd lleol.
Disgrifiad o'r llun, Mae gwasanaeth 111 wedi bod yn weithredol yn Lloegr ers 2013

Ar 么l galw 111 mae claf yn rhoi manylion sylfaenol.

Yn dibynnu ar ei natur, fe all yr alwad gael ei drosglwyddo i nyrs, fferyllydd neu feddyg all roi cyngor, awgrymu triniaeth, adnewyddu presgripsiynau, trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb neu alw ambiwlans.

Sut mae'r gwasanaeth wedi perfformio yn Abertawe?

Cafodd y gwasanaeth ei lansio yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ym mis Hydref 2016, ac yn 么l adolygiad annibynnol yn y chwe mis cyntaf roedd wedi perfformio'n dda ar y cyfan.

Derbyniwyd 72,000 o alwadau - 51% ar benwythnos gyda'r amser brig am 18:00.

Cafodd 94% o alwadau eu hateb o fewn 60 eiliad.

Yn ystod y cyfnod roedd gostyngiad o 1% mewn ymweliadau i unedau brys o'i gymharu 芒'r un cyfnod y flwyddyn gynt.

Roedd hefyd gostyngiad o 5% yn nifer y cleifion gafodd eu trosglwyddo mewn ambiwlans i unedau brys.

Yn 么l cyfarwyddwr clinigol y gwasanaeth yn Abertawe Bro Morgannwg, Dr Stephen Bassett, mae'r gwasanaeth wedi lleihau pwysau ar ysbytai.

Disgrifiad o'r fideo, Dr Stephen Bassett: '111 yn lleihau pwysau ar ysbytai'

Beth yw'r sefyllfa yn Lloegr a'r Alban?

Mae gwasanaethau 111 eisoes yn bodoli yn Lloegr a'r Alban ond yng Nghymru fe fydd 'na ragor o bwyslais clinigol - gyda mwy o weithwyr iechyd proffesiynol yn gyfrifol am ymateb i alwadau.

Pan gyflwynwyd y gwasanaeth yn Lloegr yn 2013 roedd problemau sylweddol ar y cychwyn.

Yn 么l penaethiaid yng Nghymru, ar 么l dysgu'r gwersi hynny fe fydd y gwasanaeth yma'n cael ei gyflwyno'n ara' deg, a dim ond pan maen nhw'n hyderus fod y staff a'r adnoddau mewn lle y caiff 111 ei agor mewn ardal benodol.

Beth nesaf i 111 yng Nghymru?

Cafodd ei gyflwyno ym Mawrth 2016 yn ardal Abertawe Bro Morgannwg ac ym mis Mai 2017 yn Sir Gaerfyrddin.

Ar 么l derbyn s锚l bendith Llywodraeth Cymru mae 大象传媒 Cymru ar ddeall mai'r gobaith yw cyflwyno'r gwasanaeth yn Sir Benfro a Cheredigion erbyn Mai 2018.

Wedi hynny ym Mhowys, de ddwyrain Cymru a gogledd Cymru.

Mae disgwyl i'r gwasanaeth fod yn un cenedlaethol erbyn 2021.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Richard Bowen na fydd y system yn datrys holl broblemau'r gwasanaeth iechyd

Yn 么l cyfarwyddwr rhaglen 111 y Gwasanaeth Iechyd, Richard Bowen, ni fydd y system yn ateb i holl broblemau'r GIG, ond y bydd yn "sicrhau bod y cleifion cywir yn cael eu trin yn y rhannau cywir o'r system".

"Os yw ein system yn gymhleth neu'n ddryslyd yna mae'n hawdd iawn i ni fynd i ran anghywir o'r system," meddai.

"Ac mae'n hawdd ffonio 999 neu fynd i uned frys sydd wastad ar agor.

"Ond weithiau gall rhoi 'chydig o gyngor ychwanegol dros y ff么n fod yn ddigon."