Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ryan Giggs yn cadw Osian Roberts yn rhan o staff Cymru
Mae Ryan Giggs wedi penderfynu cadw Osian Roberts fel aelod o'i staff cynorthwyol gyda'r t卯m p锚l-droed cenedlaethol.
Roedd Roberts yn is-reolwr i Chris Coleman yn Euro 2016 ac yn ystod ymgyrch aflwyddiannus y garfan i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018.
Mae disgwyl hefyd i Giggs ychwanegu Albert Stuivenberg o'r Iseldiroedd at ei d卯m cynorthwyol.
Cafodd Giggs ei benodi'n rheolwr newydd Cymru fis Ionawr, a bydd g锚m gyntaf ei deyrnasiad yn cael ei chwarae yn erbyn China ym mis Mawrth.
Dau yn gadael
Fe wnaeth Giggs a Stuivenberg, sydd yn dod o'r Iseldiroedd, gydweithio gyda'i gilydd pan oedd y ddau ohonyn nhw'n hyfforddwyr yn Manchester United dan Louis van Gaal.
Mae'r cyn-chwaraewr, wnaeth ennill 64 cap dros Gymru, eisoes wedi cadarnhau y bydd Tony Roberts yn aros fel hyfforddwyr y golwyr.
Ond mae'r pennaeth perfformiad dan Coleman, Ryland Morgans, wedi gadael ei r么l gyda disgwyl y bydd Tony Strudwick yn dod i mewn yn ei le.
Mae'r seicolegydd Ian Mitchell hefyd wedi gadael er mwyn cymryd swydd gyda th卯m p锚l-droed Lloegr.
Bydd gemau cyntaf Giggs fel rheolwr yn dod yng Nghwpan China yn Nanning ym mis Mawrth, ble byddan nhw'n wynebu'r t卯m cartref yn ogystal ag Uruguay neu'r Weriniaeth Tsiec.
Fe fydd Cymru hefyd yn herio Mecsico mewn g锚m gyfeillgar yn California ym mis Mai, wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Denmarc a Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn yr hydref.
Mae Giggs wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd yn y swydd, fydd yn cynnwys ymgyrchoedd rhagbrofol Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.