Lluniau: Y gogledd dan fantell o eira...eto!

Jest fel roedd pawb yn dechrau ymlacio a dal i fyny ar eu cyflenwadau o laeth a bara ...mae'r eira yn 么l eto mewn rhai ardaloedd.

Beth am fwrw golwg ar rai o ddelweddau gaeafol dydd Iau, 8 Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Cai Erith Williams

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r sefyllfa yn Aberdaron bore 'ma

Ffynhonnell y llun, Darren Thomas

Disgrifiad o'r llun, Roedd rhai o staff T欧 Silyn, Penygroes wedi beicio mewn cyn gorfod twrio'u ffordd at y swyddfa. Dyna i chi ymroddiad

Ffynhonnell y llun, Sion Jones

Disgrifiad o'r llun, Mae Sion Jones wedi llwyddo i ddal eira Abergele'n goleuo'r tywyllwch

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, "Whiiiii...."
Disgrifiad o'r llun, Yr eira heb ei gyffwrdd eto wrth i'r haul godi yn Llanwnda

Ffynhonnell y llun, Sioned Jones

Disgrifiad o'r llun, "Ond mam! Oes rhaid i ni fynd ar y sleds eto!"
Disgrifiad o'r llun, "Tyrd Martha i ni gael mynd yn y camperfan i rywle cynhesach..." Pan fydd y ffyrdd yn Llanfairpwll wedi clirio!

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Y jobyn cyntaf i llawer yn rhai o siroedd y gogledd heddiw
Disgrifiad o'r llun, Penisarwaun yn llechu dan flanced wen

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Mae braidd yn oer i hufen ia!
Disgrifiad o'r llun, Mae hyd yn oed trefi arfordirol y gogledd wedi'i chael hi heddiw, fel sydd i'w weld yn yr ardd yma ym Mhrestatyn heddiw

Ffynhonnell y llun, Gwenno Grug Roberts

Disgrifiad o'r llun, Capan o eira ar y pyst yn Nhregarth ger Bethesda

Lluniau eraill o eira mis Mawrth 2018: