Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dydd Gwener y Groglith: Dylanwad y Wyddeleg
- Awdur, Bryn Jones
- Swydd, Manylu, 大象传媒 Radio Cymru
Mae hi'n 20 mlynedd ers cytundeb Dydd Gwener y Groglith eleni, ddaeth 芒 heddwch i Ogledd Iwerddon wedi degawdau o drais.
Ond mae'r sefyllfa wleidyddol yn dal yn fregus yno a dim cynulliad yn y dalaith ers dros flwyddyn - yn rhannol oherwydd anghydfod am statws yr iaith Wyddeleg.
Mae rhaglen Manylu ar 大象传媒 Radio Cymru wedi bod i Ogledd Iwerddon i gwrdd 芒 Chymro sydd wedi helpu datblygu ysgol gynradd Wyddeleg.
Pan gafodd yr ysgol yn Dungannon ei hagor 10 mlynedd yn 么l, dim ond 12 disgybl oedd yn mynd yno, ond erbyn heddiw mae 'na 127.
Un rheswm dros lwyddiant yr ysgol yn Sir Tyrone yw bod un llywodraethwr - sy'n dad i un o'r disgyblion - wedi ceisio lleihau elfen wleidyddol yr iaith.
Dywedodd Iolo Eilian: "Oherwydd bod yr ysgol yn symud o fod yn gysylltiedig efo'r republican movement, mwya' sydyn roedd 'na brotestant yn rhedeg yr ysgol, oedd yn gwneud hynny oherwydd bod o eisiau i'w blant gael ail iaith.
"Dim cysylltiad 'efo unrhyw political party a 'naeth o hefyd wedyn symud ymlaen efo pobl middle class yn dod 芒 phlant ymlaen i'r ysgol am eu bod nhw eisiau i'w plant siarad dwy iaith a doedd o ddim byd i'w wneud 'efo'r symudiad gwreiddiol yn ymwneud 芒'r ysgol."
'Ffordd bell i fynd'
Yn 么l pennaeth yr ysgol mae sefyllfa addysg Wyddeleg wedi gwella'n fawr ers cytundeb Dydd Gwener y Groglith.
Dywedodd Mona U铆 Dhochartaigh bod 7,000 o blant yn cael addysg o'r fath erbyn hyn - wedi ei ariannu gan y wladwriaeth - o'i gymharu 芒'r sefyllfa yn 1972 pan gafodd y bobl agorodd yr ysgol gyntaf o'i math yn y gogledd eu bygwth 芒 charchar oherwydd eu bod yn torri'r gyfraith.
"Ond mae 'na ffordd bell i fynd o hyd," meddai.
"Dydy addysg Wyddeleg ddim wedi ei hamddiffyn gan y gyfraith ac felly ry'n ni'n ddibynnol ar ba bynnag weinidog sydd mewn grym yn y llywodraeth ar y pryd."
Ond mae'r cwestiwn o ddeddf iaith i'r Wyddeleg yn un sydd wedi creu argyfwng gwleidyddol.
Mae Sinn F茅in wedi bod yn galw am ddeddf debyg i'r un sydd yng Nghymru - un fyddai'n rhoi'r hawl am arwyddion dwyieithog, gwasanaethau cyhoeddus ac addysg drwy gyfrwng y Wyddeleg.
Ond yn 么l unoliaethwyr y DUP, does dim angen cyfraith o'r fath mewn gwlad lle mae cyn lleied yn ei siarad fel mamiaith.
Dydy'r ddwy blaid ddim yn medru dod i gytundeb am y ffordd ymlaen ar y mater, na sawl maes arall chwaith, fel priodasau hoyw.
Dim llywodraeth
Gan fod yn rhaid i'r ddwy ochr rannu grym yn 么l cytundeb Dydd Gwener y Groglith, does dim llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon ers dros flwyddyn.
Yr wythnos ddiwetha' bu aelodau seneddol San Steffan yn trafod trethiant yng Ngogledd Iwerddon gan nad yw'r cynulliad yn Stormont wedi gallu gwneud hynny oherwydd yr anghydfod.
Yn gynharach eleni, bu'r Prif Weinidog Theresa May yn Belfast i gynnal trafodaethau 芒'r ddwy brif blaid i geisio adfer y llywodraeth, ond heb lwyddiant.
Manylu - 20 Mlynedd Ers Cytundeb Gwener y Groglith, am 12:30 ar 大象传媒 Radio Cymru ac yna ar iPlayer.