Celfyddydau Cymru 'ar ei h么l hi' wrth hybu amrywiaeth
- Cyhoeddwyd
Dyw'r celfyddydau yng Nghymru ddim yn cynrychioli ei phobl ac mae'r wlad "ar ei h么l hi" wrth hybu amrywiaeth, yn 么l pennaeth cwmni theatr.
Dywedodd y cyfarwyddwr artistig Abdul Shayek, wnaeth symud o Lundain i Gaerdydd saith mlynedd yn 么l, ei fod wedi sylwi ar wahaniaethau.
Yn ddiweddar bu'n gyfrifol am redeg prosiect i roi mwy o gyfleoedd i bobl o leiafrifoedd ethnig.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dweud eu bod yn rhoi "pwyslais cynyddol" yn eu cynlluniau ar sicrhau ei bod hi'n haws cymryd rhan.
'Hierarchaeth'
"Dwi ddim yn meddwl fod y sector yn cynrychioli'r cymunedau a'r bobl sy'n byw yma," meddai Mr Shayek, wnaeth sefydlu cwmni theatr Fio yn 2015 i adrodd straeon amrywiol.
"Yn dod o Lundain, dwi'n gweld hynny. Dwi'n teimlo hynny. Rydyn ni ar ei h么l hi."
Cafodd prosiect 'Declaration' ei sefydlu gan Mr Shayek ar gyfer actorion ac ysgrifenwyr oherwydd y pryder nad oedd pobl o leiafrifoedd ethnig a grwpiau oedd yn cael eu tangynrychioli yn cael digon o gyfleoedd.
Dywedodd Nazma Ali o Abertawe, wnaeth gymryd rhan yn y prosiect, ei bod eisiau ysgrifennu ers blynyddoedd ond ei bod yn teimlo fel petai wedi'i chau allan.
"Mae 'na hierarchaeth. 'Dych chi'n meddwl, fydda i'n cymysgu? Yw e'n iawn i fi fynd i'r lle yma ble dyw e ddim yn edrych fel bod pobl eraill o leiafrifoedd ethnig?" meddai.
"Fyddan nhw'n fy nerbyn? Mae'n rhaid i chi drio 'chydig yn galetach ac er eich bod chi'n cael eich gweld, mae'n anodd iawn symud y peth ymlaen."
Fe wnaeth Hannah Lloyd, 22, o Dreorci yn Rhondda Cynon Taf hefyd gymryd rhan yn y prosiect, sydd wedi'i ariannu gan y Cyngor Celfyddydau ac yn cynnig dosbarthiadau am ddim a bwrsariaethau o 拢400 i'r rheiny sy'n cymryd rhan.
"Allai ddim fforddio dal tr锚n i Gaerdydd ar gyfer y cyfleoedd hyn ond eto does neb yn dod 芒'r cyfleoedd yma i fy nrws ffrynt," meddai.
"Felly dyw pobl o gefndir dosbarth gweithiol ddim yn cael mynediad i'r cyfleoedd hynny, ac mae'r diwydiant yn mynd fwyfwy dosbarth canol."
Cymunedau gwledig
Dywedodd Mr Shayek ei fod yn credu bod pethau'n symud yn rhy araf o ran addysg a dealltwriaeth pobl o'r angen i gynyddu amrywiaeth.
"Yn fwy aml na pheidio, mae cymunedau gwledig yn ynysig a ddim yn dod ar draws pobl sydd yn wahanol o ran hil, ethnigrwydd neu anabledd," meddai.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Celfyddydau eu bod yn cefnogi ystod eang o berfformiadau oedd yn adlewyrchu hunaniaeth Cymru.
"Ni fyddai'r cyntaf fodd bynnag i gydnabod nad oes digon o waith ar hyn o bryd i ateb diddordebau ac anghenion y cymunedau hyn," meddai.
Ychwanegodd y llefarydd y byddai mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol yn mynd tuag at waith creadigol gan artistiaid o leiafrifoedd ethnig, artistiaid anabl, a'r rheiny oedd yn gweithio yn yr iaith Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2018