'Torri addewid' i osod band eang cyflym Ysbyty Ifan
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion pentre yn Sir Conwy yn cyhuddo cwmni Openreach o dorri'u haddewid i osod band eang sydyn yno.
Fe gafodd Ysbyty Ifan addewid yn 2016 y byddan nhw'n cael cysylltiad cyflym fel rhan o brosiect Cyflymu Cymru (Superfast Cymru), ond gyda'r rhan gyntaf o'r raglen honno wedi dod i ben ers diwedd 2017, does dim rhyngrwyd sydyn i bawb yno ar hyn o bryd.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC bod angen "gofyn lle mae'r pres wedi mynd" yn dilyn yr addewid gwreiddiol.
Mae Openreach - sy'n dod dan ymbarel cwmni BT - yn dweud eu bod yn "gweithio'n galed i ddod o hyd i ddatrysiad".
Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn 2016, derbyniodd y gymuned addewidion y byddan nhw'n cael eu cysylltu fel rhan o Cyflymu Cymru.
Ond mewn gohebiaeth 芒 swyddfa Mr Gruffydd ym mis Ebrill 2018, dywedodd aelod o staff Openreach ei bod hi'n "ddrwg gen i ddeall nad oes cysylltiad band eang ffibr yn y pentre er gwaethaf yr addewidion", gan ychwanegu bod "Ysbyty Ifan ddim mewn cynlluniau ar gyfer gwasanaeth ffibr".
Yn 么l pobl leol, mae cyflymder y cysylltiad gyda'r we yn medru amrywio'n fawr o un t欧 neu fusnes i'r llall yn y pentre.
Wrth siarad gyda 大象传媒 Cymru, dywedodd Mr Gruffydd: "Ni'n gwybod bod y cynllun wedi dod i ben o ran Cyflymu Cymru - ond lle mae'r pres wedi mynd?
"Ydy'r arian unwaith eto yn cael ei flaenoriaethu i ardaloedd mwy poblog am mai'r ffocws ydy cysylltu cynifer o bobl ag sy'n bosib?"
Wrth drafod y mater mewn cyfarfod yn y pentre ddydd Llun, awgrymodd y cynghorydd sir Wyn Jones bod sefydlu rhyngrwyd cymunedol yn opsiwn i ddelio 芒 chysylltiad we araf.
Dywedodd llefarydd ar ran Openreach fod "newidiadau yn angenrheidiol" i "raglen "gymhleth a heriol" Cyflymu Cymru.
Maen nhw'n dweud hefyd fod "nifer o fusnesau a chartrefi yn Ysbyty Ifan yn medru cael band eang ffibr", ond eu bod nhw'n "deall rhwystredigaeth" y rheiny sydd ddim yn medru'i gael, a'u bod yn gweithio'n galed i ddod o hyd i ddatrysiad.
Ychwanegodd y llefarydd bod "rhaglen Openreach Community Fibre Partnerships yn opsiwn amgen i gymunedau sydd ddim yn rhan o gynlluniau band eang ffibr presennol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2017