Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Wayne Pivac yn galw ar y Scarlets i 'greu hanes'
Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac wedi galw ar ei d卯m i "greu hanes" a chyrraedd ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae'r Scarlets yn wynebu Leinster yn y rownd gynderfynol yn Stadiwm Aviva, Dulyn ddydd Sadwrn.
Dywedodd Pivac y bydd y Scarlets yn gorfod mynd i'r afael 芒'r t卯m sy'n perfformio orau yn Ewrop os am ennill eu lle yn y rownd derfynol.
Dyma fydd y bedwaredd gwaith i'r Scarlets chwarae mewn rownd gynderfynol Ewropeaidd - gan gynnwys dau fel Clwb Rygbi Llanelli - ac mae Pivac yn credu y byddai cyrraedd y rownd derfynol yn un o gyflawniadau mwyaf yn hanes y clwb.
Mae perfformiad Leinster yn y gystadleuaeth wedi bod yn wych, gan sicrhau 27 pwynt allan o 30 pwynt posib yn eu chwe g锚m gr诺p cyn trechu Saracens yn rownd yr wyth olaf.
"Dyma fyddai moment fwyaf y clwb ar wah芒n i drechu'r Crysau Duon yn 1972," meddai'r g诺r o Seland Newydd.
Dywedodd Pivac mewn cynhadledd i'r wasg yn Llanelli ddydd Mawrth: "Er bod y Scarlets yn teithio i Ddulyn mewn hwyliau hyderus, rydym yn sylweddoli fod tasg enfawr o'n blaenau.
"Maen nhw [Leinster] wedi gwneud yn anhygoel yn y gystadleuaeth, ac i beidio colli unrhyw g锚m gartref nac oddi cartref, yn erbyn timau o'r safon yma, mae'n dangos cryfder eu carfan.
"Byddai'n braf cael cyfle i fynd gam ymhellach yn y gystadleuaeth, ac rydym yn sicr yn gwybod fod hynny yn dasg enfawr.
"Mae Leinster yn ffefrynnau yn y gystadleuaeth, ac mae'n debyg y bydd yn rhaid i ni roi ein perfformiad gorau ymlaen."
Fe ddaeth y Scarlets - oedd yn bencampwyr y Pro12 y tymor diwethaf - yn 么l wedi dechrau gwael yn Ewrop y tymor hwn, gan orffen eu gemau gr诺p drwy guro Caerfaddon a Toulon, cyn trechu La Rochelle yn rownd yr wyth olaf.
Ychwanegodd Pivac: "Gobeithio y gallwn ni berfformio yn dda a bydd hynny yn adlewyrchu'r gwaith caled sydd wedi mynd mewn i'n paratoadau ni."