Lluniau: Symud archif 大象传媒 Cymru i gartref newydd

Mewn adeilad tywyll ym mherfeddion adeilad y 大象传媒 yn Llandaf, mae newid mawr ar y gweill.

Yr wythnos hon fe gymrodd 大象传媒 Cymru reolaeth o'i phencadlys newydd yng nghanol Caerdydd - ond beth fydd yn digwydd i holl archif teledu a radio 大象传媒 Cymru?

Mae'r broses o ddigido'r casgliad ffilm - dros 13,000 can o ffilm - eisoes wedi cychwyn. Fel yr hen eitem ffilm yma o'r gyfres newyddion Heddiw o 1970.

Ond mae 'na lawer mwy o rai tebyg dal i fod ar y silffoedd...

Ac nid dim ond ffilm sy'n cael ei gadw yma, ond hen dapiau fideo hefyd. Dyma ran o'r casgliad o 4,728 o dapiau un modfedd sydd ar y silffoedd, sydd i gyd erbyn hyn wedi'u digido.

Hen ddesg olygu ffilm Steenbeck sydd yn cael ei defnyddio i droi'r deunydd ffilm yn ddigidol.

Mae'r camera digidol hwn yn ffilmio pob ffr芒m o'r ffilm wrth iddo gael ei chwarae hyd at bum gwaith y cyflymder arferol.

Ymhell cyn dyfodiad y we, dyma sut yr oedd hen straeon newyddion yn cael eu catalogio - hen doriadau papur newydd o'r 60au a'r 70au mewn cwpwrdd ffeilio.

Ac wrth gwrs, mae'r sgriptiau a'r gwaith papur sydd yn mynd gydag unrhyw gynhyrchiad i gyd yn cael eu cadw yma hefyd...bocsys a bocsys o ddogfennau papur, yn ogystal 芒'r 64,000 o dapiau AV, a'r 100,000 o dapiau sain sydd hefyd yn byw yma.

Ond pan mae'r ffilm yn torri, rhaid mynd yn 么l at ddulliau hen ffasiwn o'i thrwsio.

Hefyd o ddiddordeb