Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datgelu newidiadau iechyd pellgyrhaeddol yn y gorllewin
- Awdur, Owain Clarke
- Swydd, Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru
Mae newidiadau pellgyrhaeddol i'r gwasanaeth iechyd yng ngorllewin Cymru wedi cael eu hamlinellu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae'n dilyn rhybuddion fod gwasanaethau iechyd yn yr ardal yn anghynaladwy a bod 'na risg y gallai rhai ddymchwel o ganlyniad i gynnydd yn y galw am ofal ac oherwydd prinder difrifol o staff.
Ar hyn o bryd mae aelodau bwrdd iechyd yn cyfarfod yn Hwlffordd i drafod tri chynnig, fydd, os c芒n nhw eu cymeradwyo, yn cael eu rhoi i ymgynghoriad cyhoeddus dros y 12 wythnos nesaf.
Fe fyddai pob un o'r opsiynau yn gweld Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn colli ei statws fel ysbyty cyffredinol 24 awr y dydd a byddai Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin hefyd yn colli gwasanaethau allweddol - gan gynnwys yr uned frys.
Ond mae pob opsiwn hefyd yn cynnwys cynllun i adeiladu ysbyty newydd (yn cynnwys uned frys) ar safle ger ffin Sir G芒r a Sir Benfro.
Mae'r bwrdd hefyd wedi ymrwymo i symud rhagor o wasanaethau o ysbytai i gymunedau a darparu gofal - lle bo modd - yng nghartrefi cleifion.
Dadl y bwrdd yw bod patrwm presennol gwasanaethau yn anaddas ar gyfer y dyfodol ac yn ei gwneud hi'n gynyddol anodd i gynnig gofal diogel ac effeithiol.
Heb newid, yn 么l penaethiaid, mae 'na risg y gallai cyfraddau goroesi ostwng.
Ond mae'n debygol y bydd 'na wrthwynebiad sylweddol i'r cynlluniau gan rai sydd eisoes yn dadlau y gallai symud gwasanaethau yn bellach oddi wrthyn nhw beryglu bywydau.
Yn 么l penaethiaid, does dim un opsiwn ar hyn o bryd yn cael ei ffafrio ac fe allai'r cynlluniau newid wedi i'r cyhoedd gael cyfle i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad.
Dywedodd prif weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, ar ddechrau'r cyfarfod eu bod yn ceisio gosod stori bositif am ddyfodol gofal iechyd yn y rhanbarth.
"Mae hwn yn ddechrau trafodaeth bwysig, ni all y statws quo barhau," meddai.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Mae Hywel Dda yn rhedeg gwasanaethau iechyd Sir G芒r, Sir Benfro a Cheredigion - tua 385,000 o bobl.
Mae tua 150,000 o gleifion yn cael eu gweld pob wythnos yno, a nifer o'r rheiny ym mhedair prif ysbyty'r bwrdd iechyd - Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Tywysog Philip yn Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Mae'r bwrdd hefyd yn gyfrifol am saith ysbyty cymunedol, 41 o feddygfeydd a 46 o swyddfeydd deintydd.
Y newidiadau
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo, beth bynnag fydd canlyniad yr ymgynghoriad, i fuddsoddi mwy mewn gofal yn y gymuned ac yng nghartrefi cleifion.
Fel rhan o hyn bydd rhwydwaith o 10 "canolfan gymunedol" yn cael eu creu ar draws y rhanbarth.
Bydd y bwrdd iechyd yn ymgynghori'n benodol ar dri opsiwn i ad-drefnu gwasanaethau ysbytai'r ardal.
Ym mhob opsiwn bydd Bronglais yn Aberystwyth yn parhau'n ysbyty cyffredinol.
Mae ysbytai cymunedol yn cynnig llawer yn llai o wasanaethau nag ysbytai cyffredinol.
Opsiwn A
- Creu ysbyty fyddai'n delio 芒 gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw rhywle rhwng Arberth a Sancl锚r;
- Byddai ysbytai Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg yn cael eu hisraddio i ysbytai cymunedol.
Opsiwn B
- Creu ysbyty fyddai'n delio 芒 gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw rhywle rhwng Arberth a Sancl锚r;
- Ysbyty Tywysog Philip i barhau'n ysbyty cyffredinol;
- Byddai ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn cael eu hisraddio i ysbytai cymunedol.
Opsiwn C
- Creu ysbyty fyddai'n delio 芒 gofal brys yn unig - nid gofal wedi'i drefnu o flaen llaw - rhywle rhwng Arberth a Sancl锚r;
- Ysbyty Tywysog Philip i barhau'n ysbyty cyffredinol;
- Ysbyty Glangwili'n troi'n ysbyty gofal wedi'i drefnu o flaen llaw yn unig;
- Byddai Llwynhelyg yn cael ei hisraddio i ysbyty cymunedol.
Beth nesaf?
Dywedodd Hywel Dda ei fod wedi datblygu'r cynigion yn dilyn "sgwrs fawr" gyda'r cyhoedd, a bod meddygon a nyrsys wedi bod yn rhan fwy o'r broses na newidiadau yn y gorffennol.
Cafodd 25 o opsiynau eu datblygu'n wreiddiol, cyn cael ei dorri i naw, yna chwech, a nawr tri.
Bydd ymgynghoriad ar y tri opsiwn yn cael ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos, a gall y cyhoedd ymateb trwy'r post, ar y ff么n, e-bost, ar-lein, gwefannau cymdeithasol neu mewn saith digwyddiad cyhoeddus fydd yn cael eu cynnal ar draws y rhanbarth.
Bydd y farn yn cael ei gasglu a'i ystyried cyn i'r bwrdd iechyd wneud penderfyniad terfynol yn yr hydref.