Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Golygydd 大象传媒 Radio Cymru, Betsan Powys
Betsan Powys, golygydd 大象传媒 Radio Cymru a'r cyn-olygydd gwleidyddol, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Tommo yr wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Un o'r cynhara' yw bod yn dost ar gwch pysgota mecryll oddi ar arfordir Brixham ac erfyn 'Man, man, please take me back to the side'.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Hync y dosbarth yn Ysgol Bryntaf, sef John Parry Jones. Mae hyn yn mynd i ddod fel bach o sioc i John 'sen i'n ame.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan o'n i'n ohebydd ifanc ar fy nhrip tramor cyntaf i adrodd am y newyn yn Somalia, fe wnes i ffilmio darn yn siarad i'r camera ar bwys gwraig oedd yn agos iawn at farw. Trio cyfleu difrifoldeb y sefyllfa o'n i, ond nawr, dwi'n gwrido a phoeni bod dweud y stori wedi dangos diffyg parch at rywun oedd yn amlwg yn dioddef.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Tra'n gwylio rhaglen Patrick Kielty, My Dad, the Peace Deal and Me. Mae'n llygaid i'n llenwi rownd y ril, 芒 bod yn onest.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cyrraedd bob man yn hwyr.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ogof Pafiland ar Benrhyn G诺yr. Ar 么l trio - a methu - cyrraedd yr ogof ddwywaith, fe lwyddon ni guro'r llanw a dringo i'w chrombil hi'r trydydd tro. Mae dychmygu bod teulu wedi eistedd yno 30,000 o flynyddoedd yn 么l yn syllu ar olygfa reit wahanol - ond 芒'r un creigiau o'u cwmpas - yn beth aruthrol o bwerus.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn Efrog Newydd gyda C么rdydd. Canu yn barchus yn Neuadd Carnegie, yna canu'n llai parchus mewn bar coct锚ls crand oedd yn troi'n raddol ar ei echel. Fe ddaeth rywun draw a holi 'Are you the cast of Lion King?' Buon ni'n chwerthin nes bod ni'n dost.
O Archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Greddfol, penderfynol, gobeithiol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
A Prayer for Owen Meaney gan John Irving.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Diod-dweud-diolch gyda John Irving. Dwi wedi ymgolli yn llwyr yn ei lyfrau ers yn f'ugeinie cynnar, a dwi'n mynd ar fy mhen i'r siop pan fydd e'n cyhoeddi nofel newydd. Licen i gyfleu wrth y boi faint o bleser mae ei sgwennu wedi'i roi i fi.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n saethu gyda bwa a saeth ac wedi dod yn aelod o glwb saethyddiaeth yn ddiweddar. Ffocws ar ddim byd ond y targed papur, gollwng st锚m - dwi wrth fy modd!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Pallu credu bod y diwedd yn dod!
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Y g芒n sy'n cael ei chwarae drosodd a throsodd yn y car ar hyn o bryd yw Anybody Have a Map o'r sioe gerdd Dear Evan Hansen. Dylanwad merch yn ei harddegau a geiriau sy'n cyffwrdd.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cigach oer, cawl Mam, hufen i芒 Dylan.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Ein ffrind Ann o Ddinbych-y-Pysgod, am mai ei chartre' hi sydd 芒'r olygfa fwya' hudolus y gwn i amdani.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Dewi 'Corn' Griffiths