Pwyntiau gwefru i geir trydan yn 'allweddol' i'r economi

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yr amcangyfrif yw bod tua 2,500 o geir trydan yng Nghymru

Mae gosod pwyntiau gwefru cyflym i geir trydan yn "allweddol" i'r economi, gan fod rhwydwaith Cymru "ar ei h么l hi" o'i gymharu 芒 gweddill y DU.

Dyna ddywedodd sefydliad sy'n hyrwyddo'r defnydd o geir trydan, gan ychwanegu bod buddsoddiad o 拢2m gan Lywodraeth Cymru am ragor o bwyntiau gwefru yn "ddechrau da" ond bod angen mwy.

Mae'r twf mewn gwerthiant o geir trydan a hybrid yn uwch yng Nghymru na gweddill y DU.

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gosod mwy o bwyntiau gwefru erbyn yr haf eleni wrth i'r ddinas geisio bod yn ddi-garbon erbyn 2030.

"Bydd pwyntiau gwefru cyflym yn allweddol i Gymru wrth i fwy a mwy o bobl brynu ceir trydan," meddai cyd-sylfaenydd Next Green Car, Melanie Shufflebotham.

"Mae twf yn hanfodol i economi diwydiannol a thwristiaeth Cymru. Ar hyn o bryd byddai'n her teithio trwy ganol Cymru."

Ffynhonnell y llun, Zap Map

Disgrifiad o'r llun, Map o bwyntiau gwefru cyflym Cymru ar y chwith, gyda'r holl bwyntiau ar y dde

Mae Zap Map yn dweud bod gan Gymru tua 350 o bwyntiau gwefru, ond mai dim ond 35 sy'n rhai cyflym, all wefru car mewn 30 munud.

Ar hyn o bryd yr amcangyfrif yw bod tua 2,500 o geir trydan yng Nghymru, ac mae llai o bwyntiau gwefru y pen yma nac yng ngwledydd arall y DU.

Mae'r Ysgrifennydd Amgylchedd, Lesley Griffiths eisiau i'r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried codi t芒l ar geir petrol a diesel i yrru yn y ddinas a byddan nhw'n trafod gosod mwy o bwyntiau gwefru - chwech o'r rheiny'n rhai cyflym - mewn cyfarfod ddydd Iau.

Bydd yr awdurdod hefyd yn trafod sut i newid ceir y cyngor - 960 ohonynt - i rai trydan, a datblygu strategaeth gyda chwmn茂au tacsis a bysiau i symud i ffwrdd o betrol a disel.