大象传媒

Cyhuddo Jones o 'achosi gofid' i deulu Carl Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Carl Sargeant yn ysgrifennydd cymunedau cyn iddo golli ei swydd

Mae cyfreithwyr teulu'r cyn-weinidog Carl Sargeant wedi ysgrifennu llythyr yn cyhuddo'r prif weinidog Carwyn Jones o achosi "gofid sylweddol" iddyn nhw.

Cafodd Mr Sargeant ei ddarganfod yn farw ym mis Tachwedd, pedwar diwrnod ar 么l iddo golli ei swydd yn y cabinet.

Roedd yn wynebu ymchwiliad gan y blaid Lafur i honiadau o "ymddygiad amhriodol" pan fu farw.

Pan ofynnwyd i Mr Jones a oedd yn credu fod ei weithredoedd wedi achosi gofid, dywedodd y prif weinidog wrth 大象传媒 Cymru nad oedd "ei weld fel hynny".

"Beth dwi'n credu sy'n bwysig dros ben yw fod pethau yn dechrau, dwi moyn gweld pethe'n dechrau, alla'i 'weud 'na, a dwi'n siwr fyddan nhw eisiau gweld hwnna hefyd," meddai.

'Chwarae gemau'

Bydd ymchwiliad gan y QC Paul Bowen yn edrych ar yr amgylchiadau ond dyw ddim wedi dechrau ar ei waith eto.

Fis diwethaf fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod y protocol ar gyfer y ffordd y bydd yr ymchwiliad yn gweithredu yn barod "cyn hir".

Ond ar drothwy cynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno mae cyfreithwyr y teulu Sargeant wedi ysgrifennu at Mr Bowen yn beirniadu'r oedi.

Mae'r llythyr yn dweud bod y ffordd mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn delio 芒'r mater yn "achosi gofid sylweddol i'n client a'i deulu".

Ychwanega'r llythyr bod angen dilyn prosesau yn fuan fel bod modd i'w deulu rhoi'r mater i orffwys.

Disgrifiad,

Carwyn Jones: Cyhuddiad o achosi poen meddwl 'ddim yn wir'

Yn ddiweddarach mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru dywedodd cyfreithiwr Jack Sargeant, Neil Hudgell: "Mae'n benllanw nifer o rwystredigaethau dros oedi cyn dechrau'r ymchwiliad."

Ychwanegodd fod y broses "fel petai wedi oedi".

"Rydyn ni'n bendant yn teimlo fod y peth wedi ei ddad-ddynoli gan swyddfa'r prif weinidog, bod rhywfaint o chwarae gemau wedi bod yn mynd ymlaen a thactegau oedi bwriadol."

Yn gynharach eleni cafodd mab Mr Sargeant, Jack ei ethol i gynrychioli sedd wag ei dad, Alun a Glannau Dyfrdwy, yn y Cynulliad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydda'n addas gwneud sylw ar y llythyr.

'Pwysau ar ei arweinyddiaeth'

Cafodd Mr Bowen ei benodi ym mis Ionawr i arwain ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y gwnaeth Mr Jones ddelio gyda diswyddo Mr Sargeant, ond dyw hwnnw heb ddechrau eto.

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth y Ceidwadwyr i orfodi'r llywodraeth i gyhoeddi adroddiad oedd yn edrych ar ryddhau gwybodaeth am ddiswyddo Mr Sargeant cyn iddo ddigwydd.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod nad oedd unrhyw wybodaeth wedi ei ryddhau "heb ei awdurdodi", ond dyw'r adroddiad llawn heb gael ei gyhoeddi oherwydd pryder y gallai tystion gael eu hadnabod.

Yn ymateb i'r llythyr dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ein bod "wedi gweld y gwaethaf o Carwyn Jones yr wythnos yma".

"Mae penderfyniadau'r prif weinidog wedi cael eu beirniadu'n sylweddol dros y dyddiau diwethaf, a bydd y llythyr yma'n ychwanegu at y pwysau sydd ar ei arweinyddiaeth," meddai.

"Mae rhwystredigaeth a gofid y teulu Sargeant yn ddealladwy, ac mae'n teimlo bod y llywodraeth yn ymbellhau eu hunain mor bell 芒 phosib o'r broses yma."