大象传媒

A all trydydd croesiad y Fenai gario ceblau?

  • Cyhoeddwyd
Pont MenaiFfynhonnell y llun, Ian Warburton / Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y bont gyntaf dros y Fenai ei chodi yn y ddeunawfed ganrif

Bydd astudiaeth newydd yn ystyried a allai'r trydydd croesiad dros y Fenai gario ceblau trydan o'r Wylfa.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gyfuno'r cynllun o greu croesiad ar gost o 拢135m gyda chynlluniau y Grid Cenedlaethol i gario ceblau o Wylfa Newydd i is-orsaf Pentir ger Bangor.

Y gobaith yw y bydd y Grid Cenedlaethol yn helpu i dalu am y croesiad.

Ond mae'r Grid Cenedlaethol, sy'n cynnal yr astudiaeth ar y cyd 芒 Llywodraeth Cymru, yn dweud eu bod yn parhau 芒'u cynlluniau i gael twnnel o dan y Fenai.

Fe gychwynnodd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Rhagfyr ar 么l i Lywodraeth Cymru gyhoeddi pedwar opsiwn posib ac fe gafodd y cynlluniau .

Y bwriad yw lleihau tagfeydd traffig ac mae'n bosib y bydd croesiad newydd yn cael ei godi neu fod Pont Menai yn cael ei hymestyn.

Bydd yr astudiaeth newydd, a fydd yn cael ei hariannu gan Llywodraeth Cymru, yn ystyried a fydd cynllun wedi'i gyfuno yn rhoi gwerth am arian.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y gobaith yw y bydd croesiad newydd dros y Fenai yn gostwng traffig ar Bont Britannia

Fe allai cyfuno dau gynllun fod yn heriol yn nhermau "cynllun adeiladu, cost a sicrhau'r dechnoleg addas" yn 么l Gareth Williams, uwch swyddog National Grid.

"Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen gyda'n cynlluniau presennol i gael twnnel gan fod ein cwsmer Horizon angen cysylltiad erbyn canol y 2020au."

'Oedi'

Y llynedd dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth ACau y byddai penderfyniad yn cael ei wneud ar leoliad y croesiad newydd erbyn Mai 2018.

Mae'r astudiaeth wedi cael croeso gan y Ceidwadwyr Cymreig ond fe ddywedodd llefarydd: "Ni allwn fforddio gael rhagor o oedi - y mae'r Prif Weinidog wedi addo gwneud cyhoeddiad y mis hwn.

"Mae degawd wedi pasio ers i Lywodraeth Cymru gomisiynu adroddiad a oedd yn nodi wyth opsiwn - yn eu plith pont newydd."

Daw'r arian ar gyfer yr astudiaeth newydd o'r 拢3m a osodwyd o'r neilltu ar gyfer cynllunio a datblygu y trydydd croesiad. Fe gafodd y gan Blaid Cymru.

Dywedodd Llyr Gruffydd, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru: "Os yw'r ddau gynllun yn mynd law yn llaw, gorau'i gyd".

"Dyma ddau brosiect mawr posib a fydd yn digwydd tua'r un pryd," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ken Skates yn credu y bydd trydydd croesiad yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, y byddai'r astudiaeth yn "archwilio yn fanwl gyfleon posib, heriau a'r rhwystrau" o ran gwireddu cynllun i gyflawni'r ddau nod.

"Mae'r trydydd croesiad yn fuddsoddiad anferth a gallai wneud gwahaniaeth mawr i gymunedau ac ymwelwyr gan ddelio 芒 thagfeydd traffig a hybu'r economi."

'Gwaith yn dechrau diwedd 2020/dechrau 2021'

Fe ddaeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y trydydd croesiad i ben ar 9 Mawrth. Dywed Llywodraeth Cymru eu bod ar hyn o bryd yn edrych ar yr ymateb.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn ymrwymedig i gael trydydd croesiad ac na fyddai'r ffaith a yw'n cario ceblau trydan neu beidio yn effeithio ar y penderfyniad hwnnw.

Fydd yr astudiaeth hefyd ddim yn dylanwadu ar y dewis o groesiad.

Ychwanegodd: "Byddwn yn dechrau ar y gwaith adeiladu, cyn belled ein bod wedi derbyn pob caniat芒d sydd ei angen, erbyn diwedd2020/dechrau 2021."