Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Disodli Hamilton fel arweinydd gr诺p UKIP yn y Cynulliad
Mae Neil Hamilton wedi cael ei ddisodli fel arweinydd gr诺p UKIP yn y Cynulliad yn dilyn pleidlais ymhlith ACau'r blaid.
Caroline Jones, Aelod Cynulliad y blaid yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, sydd wedi'i dewis i'w olynu.
Daeth y penderfyniad ddiwrnod wedi adroddiadau o gyfarfod tanllyd rhwng ACau'r blaid yngl欧n 芒'r arweinyddiaeth.
Cafodd Mr Hamilton ei ddewis fel arweinydd y gr诺p yn dilyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, pan gafodd saith o ACau UKIP eu hethol.
Ar y pryd, Nathan Gill oedd arweinydd UKIP yng Nghymru, ond fe benderfynodd eistedd fel AC annibynnol ar 么l cael ei drechu gan Mr Hamilton.
Anghydfod
Fe gadarnhaodd Caroline Jones ei bod wedi ennill mwyafrif yn y bleidlais ddydd Iau, ond wnaeth hi ddim cadarnhau pa ACau oedd wedi pleidleisio drosti.
"Dwi'n falch iawn eu bod wedi rhoi eu ffydd ynof fi i'w harwain nhw yn y Senedd a'n symud ni 'mlaen," meddai.
"Mae Neil wedi gwneud gwaith da, gwaith da iawn. Mae'n wleidydd medrus. Bydd yn anodd dilyn ei esiampl."
Ychwanegodd ei bod yn bwriadu parhau fel gr诺p o bum aelod, ac y byddai gwahoddiad yn cael ei ymestyn i Mandy Jones ailymuno 芒 nhw.
"Mae Neil wedi gweithio'n galed iawn. Nawr mae'n bryd i rywun arall gymryd yr awenau ac adnewyddu'r blaid," meddai.
Dywedodd ffynonellau wrth 大象传媒 Cymru fod yr AC Gareth Bennett wedi gadael cyn diwedd cyfarfod tanllyd ddydd Mercher, pan ddaeth hi'n amlwg fod her i'r arweinyddiaeth ar fin digwydd.
Roedd s么n y gallai'r gr诺p rannu, gyda Ms Jones, David Rowlands a Michelle Brown yn gadael, ac roedd hi'n ymddangos erbyn prynhawn ddydd Iau fod safle Mr Hamilton yn ddiogel.
Ond yna daeth y newyddion fod ACau'r blaid wedi cynnal pleidlais, ac i Ms Jones gael ei dewis fel arweinydd.
Dadansoddiad Golygydd Materin Cymreig 大象传媒 Cymru, Vaughan Roderick:
Nid hwn yw'r tro cyntaf i ffraeon personol ac ymgecru dorri mas yn rhengoedd UKIP, ond fe fydd y ffrae ddiweddaraf yn un hynod niweidiol o gofio bod y gr诺p ym Mae Caerdydd yn cynrychioli un o droedleoedd olaf y blaid yng nghoridorau grym.
Ymddengys mai tuedd Neil Hamilton i gymryd penderfyniadau heb ymgynghori ag aelodau eraill y gr诺p oedd yn gyfrifol am ei gwymp.
Mae'n debyg mai penderfyniad i beidio cefnogi rheolau llym newydd i sicrhau tegwch a pharch yn y Cynulliad mewn pleidlais ddoe oedd yr hoelen olaf yn yr arch i'r gwleidydd dadleuol.
Dyw hi ddim yn eglur eto a fydd Mr Hamilton yn parhau'n aelod o'r gr诺p neu hyd yn oed y Cynulliad, ond mae'r her sy'n wynebu Caroline Jones, gwleidydd cymharol ddibrofiad, yn un enfawr.
Cododd tensiynau yn y blaid yn ddiweddar wedi i Mr Bennett, AC Canol De Cymru, gefnogi penderfyniad gan y pwyllgor safonau i argymell y dylai Ms Brown gael ei diarddel o'r Cynulliad am wythnos am wneud sylw hiliol.
Mewn datganiad pan ddaeth y penderfyniad i'r amlwg dywedodd Ms Brown nad oedd hi'n "debygol o gymryd gwersi mewn cywirdeb neu ymddygiad gwleidyddol gan Gareth Bennett".
Yn ddiweddarach daeth i'r amlwg fod Ms Brown, Ms Jones a Mr Rowlands wedi gwrthod argymhelliad Mr Hamilton y dylai Mr Bennett ymuno 芒 phwyllgor cenedlaethol gweithredol y blaid.
Yn hytrach na chefnogi enwebiad Mr Bennett, fe wnaeth y tri gefnogi Ms Brown.
Gyda Mr Hamilton eisoes yn arweinydd y gr诺p yn y Cynulliad, cafodd hefyd ei wneud yn arweinydd UKIP yng Nghymru y llynedd gan arweinydd newydd y blaid ym Mhrydain ar y pryd, Henry Bolton.
Deufis yn ddiweddarach fe adawodd Mr Gill ei swydd fel AC, gyda Mandy Jones yn ei olynu.
Ond fe ddywedodd yr AC newydd nad oedd hi eisiau bod yn rhan o gr诺p UKIP yn y Cynulliad, gan honni fod rhai aelodau wedi ei bwlio.
Roedd UKIP eisoes wedi colli un AC, Mark Reckless, pan benderfynodd ym mis Ebrill 2017 i ymuno 芒 gr诺p y Ceidwadwyr.