Llywodraeth y DU 'am ariannu gorsaf Wylfa Newydd'

Ffynhonnell y llun, Horizon

Disgrifiad o'r llun, Byddai Wylfa Newydd yn weithredol am 60 mlynedd pe bai'n cael ei gymeradwyo

Mae adroddiadau bod Llywodraeth y DU am gynnig 拢13.3bn o gymorth ariannol i helpu Hitachi i adeiladu gorsaf b诺er niwclear Wylfa Newydd.

Mae asiantaeth Kyodo yn Japan yn dweud mai'r rheswm yw lleddfu pryderon am gostau'r cynllun, sydd wedi cynyddu o'r amcangyfrif gwreiddiol o 拢10bn.

Gobaith is-gwmni Hitachi, P诺er Niwclear Horizon, yw dechrau ar y gwaith adeiladu yn Ynys M么n yn 2020.

Ond mae Llywodraeth y DU yn dweud nad ydyn nhw'n "cydnabod yr adroddiadau hyn".

Dywedodd y cwmni bod "trafodaethau agos" ar ariannu'r prosiect yn parhau.

'Cymhleth a manwl'

Ychwanegodd llefarydd o Horizon bod "y trafodaethau hyn yn gymhleth a manwl".

"Er ein bod yn deall y diddordeb mewn unrhyw ddatblygiad, ni fyddwn yn gwneud sylw nes i'r trafodaethau ddod i ben," meddai.

Dywedodd Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU eu bod "wastad wedi bod yn glir bod yn rhaid i'r prosiect fod am y pris cywir ar gyfer cwsmeriaid a threthdalwyr".

"Mae'r trafodaethau yn rhai sy'n sensitif yn fasnachol," meddai llefarydd.

Dwbl y pris gwreiddiol

Mae Kyodo yn adrodd bod costau'r cynllun wedi cynyddu i tua 拢20bn bellach, ac y byddai cefnogaeth Llywodraeth y DU yn talu am y mwyafrif ohono.

Mae'r asiantaeth hefyd yn awgrymu y gallai'r trethdalwyr fod yn berchen ar draean o'r prosiect.

Gobaith Horizon yw y bydd yr orsaf yn dechrau creu p诺er erbyn 2025, a byddai'n weithredol am 60 mlynedd.

Ond mae'r cwmni eto i gwblhau un o'r prif rwystrau, sef sicrhau caniat芒d cynllunio.

Mae adroddiadau hefyd y gallai Hitachi gamu i ffwrdd o'r cynllun os na fyddai'n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth y DU.