Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llai yn cerdded a seiclo er gwaethaf deddf i'w hyrwyddo
Dyw nifer y bobl sy'n cerdded a seiclo i'r gwaith a theithiau angenrheidiol eraill ddim wedi cynyddu yn y pum mlynedd ers i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i hyrwyddo hynny.
Ers i Ddeddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru gael ei chyflwyno yn 2013 mae llai o blant yn teithio i'r ysgol ar droed neu ar feic.
Dywedodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad mai "diffyg arweinyddiaeth" gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n "ystyried yr argymhellion sydd yn yr adroddiad ac yn ymateb maes o law".
Gostyngiad ers y ddeddf
Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru'n dangos mai 6% o bobl dros 16 oed oedd yn seiclo i'r gwaith o leiaf unwaith yr wythnos pan gafodd y ddeddf ei phasio yn 2013.
Ond fe wnaeth y ffigwr yma ostwng i 5% erbyn 2016-17.
Y ffigwr ar gyfer cerdded i'r gwaith oedd 46% yn 2013, ac fe wnaeth hynny godi i 47% yn 2016-17.
Roedd 53% o blant yn cerdded a 2% yn seiclo i'r ysgol gynradd yn 2013-14, ond erbyn y llynedd roedd hyn wedi gostwng i 42% ac 1%.
Fe wnaeth nifer y plant sy'n cerdded i'r ysgol uwchradd godi ychydig o 33% i 34%, tra bo'r nifer sy'n seiclo wedi aros yn 1%.
Mae'r pwyllgor yn galw am gryfhau'r arweinyddiaeth ac yn dweud bod angen egluro disgwyliadau i gynghorau.
Mewn digwyddiad diweddar i hyrwyddo seiclo, cyfaddefodd y prif weinidog Carwyn Jones na fyddai ef ei hun yn seiclo i'r gwaith.
Er bod y pwyllgor yn croesawu buddsoddiad diweddar o 拢60m gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyfanswm sy'n cael ei wario y pen ar ran poblogaeth Cymru yn llai nag argymhelliad y pwyllgor.
Cafodd y Ddeddf Teithio Llesol ei chyflwyno bum mlynedd yn 么l, ond dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Russell George AC: "Nod y Ddeddf Teithio Llesol oedd trawsnewid y ffordd y mae pobl yng Nghymru yn teithio dros bellterau byr trwy hwyluso ffyrdd gwell o feicio a cherdded yn hytrach na defnyddio'r car.
"Fodd bynnag, gan fod nifer y bobl sy'n beicio neu'n cerdded yng Nghymru yn sefydlog neu'n gostwng, mae'n amlwg mai cynnydd cyfyngedig sydd wedi'i wneud.
"Nid oedd uchelgais y ddeddf byth yn mynd i gael ei gyflawni mewn ychydig o flynyddoedd, ond yn sicr ni ellir ei wireddu trwy gamau gweithredu ac ewyllys da ychydig o swyddogion beicio ymroddedig.
"Dyna pam mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu gwersi ar y cynnydd hyd yn hyn, rhoi arweinyddiaeth well a llawer mwy o arian i sicrhau bod uchelgeisiau gwreiddiol y ddeddf yn cael eu gwireddu."
'Y cyntaf o'i math'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y Ddeddf Teithio Llesol yw'r cyntaf o'i math yn y byd ac rydym yn falch o'r hyn mae wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr o amser gyda'n partneriaid strategol.
"Yn ein pumed Cynhadledd Teithio Llesol blynyddol yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates annog awdurdodau lleol i fireinio, gwella a gwireddu eu cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau cerdded a beicio.
"Rydym yn cyflymu'r broses o gyflwyno ac yn ystod y tair blynedd nesaf rydym yn disgwyl clustnodi dros 拢90m ar welliannau a phrosiectau gweithredol ledled Cymru."