Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diffyg band eang a signal ff么n yn 'annheg' ar blant ysgol
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg 大象传媒 Cymru
Dydy rhai pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig ddim yn cael tegwch wrth wneud gwaith cartref oherwydd cysylltiadau ff么n a band eang gwael, yn 么l rhai o drigolion Dyffryn Conwy.
Mae un teulu o bentref Gwytherin yn gyrru i arhosfan leol er mwyn gallu cysylltu 芒'r we.
Yn aml, mae eu merch 12 oed yn methu gwneud ymchwil ar gyfer ei gwaith ysgol yn y t欧 oherwydd bod y cysylltiad band eang mor wan.
Dywedodd y Cynghorydd Garffild Lloyd Lewis sy'n gyfrifol am addysg ar Gyngor Sir Conwy bod yna do o bobl ifanc yn yr ardal sydd ddim yn cael yr un cyfle cyfartal 芒 phlant eraill.
'Dim signal ff么n'
Mae Grug, sy'n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, yn byw gyda'i theulu ar gyrion pentref Gwytherin yn Nyffryn Conwy.
Yn 么l ei mam Einir Williams mae'r cysylltiad band eang "yn gweithio weithiau, ddim dro arall" a does 'na ddim signal ffon.
Mae hynny'n golygu bod rhaid cymryd camau pellach yn aml er mwyn cwblhau gwaith cartref Grug.
"Ar 么l swper mae isio meddwl gwneud gwaith cartref, ac os yw'r we ddim gynnon ni da ni'n gorfod neidio i'r car," meddai Einir.
"Yn enwedig os yw'r gwaith cartref i fod fewn y diwrnod wedyn neu mewn dau ddiwrnod mae rhaid i ni fynd un ai i d欧 fy chwaer yng nghyfraith i fenthyg neu dwyn ei wi-fi hi neu 'dan ni'n mynd i lay by sydd tua milltir i ffwrdd o fama ble mae 'na 4G."
Yno maen nhw'n gallu cysylltu 芒'r we trwy 'hotspot' ar ei ff么n i Grug lawrlwytho lluniau neu gwblhau tasgau byr eraill.
Dywedodd Grug bod angen gwneud llawer o ddefnydd o'r we er mwyn gwneud ei gwaith cartref.
"Yn celf o'n i'n gorfod cael lluniau o adeiladau i gop茂o a wedyn o'n i ddim yn gallu cael y lluniau," meddai.
'Effeithio ar y teulu'
Mae gorfod mynd yn y car yn effeithio ar amser y teulu gyda'i gilydd, meddai Einir.
"Mae'n cymryd tipyn o amser sy'n golygu bod Grug yn hwyrach yn mynd i'w gwely."
Yn 么l y cynghorydd lleol Garffild Lloyd Lewis mae'r sefyllfa'n "anghyfartal".
"Mae'n gyfnod arholiadau ar hyn o bryd - llawer iawn o'n bobl ifanc ni'n methu gwneud eu gwaith cartref adre efo'r teulu a'n gorfod teithio i lefydd eraill i wneud hynna," meddai. "Dydy hynna ddim yn deg".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynllun Superfast Cymru, oedd yn ehangu darpariaeth band eang cyflym i ardaloedd tu hwnt i'r rhieni oedd yn cael eu gwasanaethu gan gwmn茂au masnachol, wedi "trawsnewid" y tirlun digidol yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd: "Ers dechrau'r cynllun mae'r ddarpariaeth band eang cyflym iawn wedi mwy na dyblu.
"Rydyn ni eisiau mynd yn bellach a'n gynharach eleni fe gyhoeddon ni nifer o fesurau i ymestyn ymhellach darpariaeth band eang cyflym a dibynadwy yng Nghymru."
Roedd BT Openreach yn rhan o'r cynllun a dywedodd llefarydd bod "mwy na 750,000 o gartrefi a busnesau yn gallu defnyddio gwasanaeth cyflym iawn dros 30Mbps diolch i'r cynllun - llawer yn fwy na'r bwriad gwreiddiol."
Ond ychwanegodd: "Rydyn ni'n deall rhwystredigaeth cymunedau, fel Gwytherin, sydd ar hyn o bryd yn methu defnyddio band eang ffibr."