大象传媒

Nigel Owens yn difaru achosi poen i'w rieni

  • Cyhoeddwyd
Nigel Owens gyda Dewi Llwyd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth sylwadau Nigel Owens wrth gael ei holi ar gyfer rhaglen Dewi Llwyd

Mae'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi dweud nad yw'n gallu maddau ei hun am achosi poen i'w rieni ar 么l ceisio lladd ei hun pan oedd yn ei 20au.

Mewn cyfweliad ar raglen Dewi Llwyd, fe ddisgrifiodd effaith "noson dywyll" pan ddaeth "o fewn 20 munud" i farw.

Ond dywedodd fod ymateb ei rieni a'r gymuned wedi gwneud hi'n haws iddo ddygymod 芒'i rywioldeb a mynd ati i fyw ei fywyd fel dyn hoyw.

Dywedodd fod ei fod wedi ofni ymateb posib y gymuned i'w rywioldeb, ac yn cael trafferth dod i delerau 芒'r peth ei hun yn y "cyfnod anodd iawn a'r noson hynny pan nes i neud beth na'i ddifaru am gweddill y'n oes - pan nes i geisio cymryd bywyd y'n hunan.

"Na'i byth fadda i'n hunan beth nes i ddodi'n fam a'n nhad trwyddo pan naethon nhw godi'r bore 'ny a darllen y nodyn a meddwl bo' nhw byth yn mynd i weld eu hunig blentyn byth 'to.

"Mae'n rhaid i mi fyw gyda 'na am gweddill y'n oes. Ond wedyn... ar 么l y cyfnod 'ny a'r dod allan - pan weles i'r gymuned a'r teulu a'r ffrindie o amgylch yn dod tu cefn i chi, i'ch cefnogi chi, yn cefnogi'n fam a dad trw'r cyfnod anodd 'ny - nath hwnnw neud e wedyn yn haws i mi ddelio gyda'r sefyllfa.

"O'dd e bach fel Catch 22, o'dd e'n dala fi'n 么l ar y dechre, yn gofidio beth o'dd yn mynd i ddigwydd, ond wedyn bydden i byth wedi dod trwyddo fe fel nes i. A bydde'n fam a dad, dwi'n credu, byth wedi dygymod 芒 dod trwyddo fe oni bai am y gymuned.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nigel Owens yn dyfarnu rownd derfynol Cwpan y Byd 2015

"Nes bo' fi yn 26 nes i ymladd yn erbyn [ei rywioldeb], nes i dreial neud popeth allen i i beidio bod yn hoyw... 'na pam nes i ddioddef gyda'r iselder yna... ond o'dd dim dewis.

"O'n i'n 26 cyn nes i ystyried 'ny - pan es i i'r noson dywyll 'na a o fewn 20 munud o golli'n fywyd.

'Rhaid tyfu lan a bod pwy ydw i'

"Pan da'th y'n fam i'r ysbyty a dweud wrthof fi 'Os nei di unrhyw beth fel'na eto, man a man i ti fynd 芒 fi a Dad gyda ti achos 'dy'n ni ddim am fyw ein bywyd hebddot ti'. A dyna'r foment nes i ystyried 'Mae'n rhaid i fi dyfu lan yn fan hyn a bod pwy ydw i'."

Ychwanegod nad yw'n siomedig nad oes mwy o unigolion hoyw o fewn y byd rygbi wedi datgan eu rhywioldeb gan ddweud fod hwnnw'n benderfyniad i'r unigolion.

Ond dywedodd fod y lleiafrif o fewn cymdeithas a'r byd chwaraeon sy'n beirniadu pobl ar sail rhywioldeb, cenedligrwydd neu liw croen yn crebachu, "diolch byth".

Dywedodd hefyd ei fod yn dal i gael problemau achlysurol gyda'r anhwylder bwyta, bwlimia - "dros gyfnod y Nadolig fe ddoth yn ei 么l ddwytha" - ond bod y sefyllfa ddim yn cymharu 芒'r cyfnod mwyaf difrifol, a'i fod yn rhywbeth sy'n codi yn sgil teimlo'n isel "o bryd i bryd".