Datgelu cynlluniau 拢100m i brofi trenau a rheilffyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynlluniau ar gyfer canolfan i brofi technoleg trenau'r genhedlaeth nesaf wedi cael eu datgelu a hynny ar gost o 拢100m.
Fe allai'r man profi gael ei adeiladu ar hen safle glo brig yng Nghastell-nedd Port Talbot, ond yn 么l Llywodraeth Cymru, mae hi dal yn "ddyddiau cynnar" yn y cynllun.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates ei fod am i Gymru fod 芒 rhan flaenllaw yn niwydiant rheilffordd y DU ac Ewrop.
Daw'r cyhoeddiad wedi i gwmni KeolisAmey ennill y cytundeb i redeg gwasanaethau Cymru a'r Gororau ac i ddatblygu Metro De Cymru.
Cylchffordd arbrofi
Byddai'r ganolfan yn caniat谩u i drenau gael eu profi ar draciau arbenigol hirgrwn 4.5 milltir a 2 filltir lle mae modd cyrraedd cyflymder o hyd at 100mya.
Byddai'r cylchffordd arbrofi yn cynnwys eu llwyfannau a'u twneli eu hunain.
Fe fydd yna ragor o gyhoeddiadau mewn cysylltiad 芒'r rheilffyrdd yng Nghymru pan fydd y cwmni, sydd 芒'i wreiddiau yn Ffrainc a Sbaen, yn cymryd y fasnachfraint oddi ar gwmni Arriva ym mis Hydref.
Mae disgwyl i depo trenau agor yn Ffynnon Taf ac mae KeolisAmey hefyd wedi dweud eu bod yn bwriadu symud eu pencadlys i Gymru.
Dywed Mr Skates bod swyddogion wedi cael cais i wneud achos busnes ar gyfer y safle profi, fydd angen cefnogaeth leol ynghyd 芒 phartneriaethau sy'n cynnwys y sector breifat a chwmn茂au rheilffyrdd.
Y dewis sy'n cael ei ffafrio yw gosod y gwaith yn hen waith glo brig Nant Helen ar y ffin 芒 Phowys a drws nesaf iddo mae golchfa Onllwyn sy'n parhau i fod yn weithredol.
Potensial am fuddsoddiad newydd
Dywedodd Mr Skates: "Mae'r ardal yma ym mhen uchaf Cwm Dulais wedi bod yn ddibynnol ar y diwydiant glo ers cenedlaethau.
"Wedi i un bennod gau, mae yma botensial am fuddsoddiad newydd a fyddai'n gwneud defnydd o'r sgiliau sy'n bodoli eisoes a rhai newydd.
"Mae hefyd yn brosiect a allai wneud cyfraniad pwysig i waith tasglu'r Cymoedd - un a fyddai'n darparu swyddi o safon a'r sgiliau i gyflawni y swyddi hynny."
Byddai'r adnodd newydd ynghlwm 芒'r gwaith o ddatblygu'r genhadlaeth nesaf o drenau, fyddai'n defnyddio hydrogen a batris.
Byddai'n profi isadeiledd, yn helpu i ddatblygu technoleg arwyddo digidol ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer storio, dadgomisiynu a gwaith cynnal a chadw.
Mae safleoedd tebyg eisoes yn bodoli yn Yr Almaen a'r Weriniaeth Siec ond mae'r amser aros ar gyfer cael prawf yn flwyddyn.
Yn y cyfamser mae ffatri sy'n adeiladu trenau newydd yng Nghasnewydd gan gynhyrchwyr o Sbaen ar fin bod yn barod. Mae disgwyl iddi agor yn yr hydref gan greu 300 o swyddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2017