大象传媒

Alun Davies yn 'hapus' i newid cynlluniau uno cynghorau

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies

Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies wedi dweud wrth arweinwyr cynghorau Cymru ei fod yn "hapus" i ailystyried cynlluniau i uno awdurdodau lleol.

Ym mis Tachwedd y llynedd rhybuddiodd Mr Davies fod rhaid i gynghorau newid, neu byddai'r llywodraeth yn eu gorfodi i newid.

Yn dilyn hynny cyhoeddodd y gweinidog gynlluniau i gwtogi'r nifer i gyn lleied 芒 10, gan ddweud "fod yn rhaid i'r cam nesaf newid y g锚m".

Wrth siarad yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Llandudno ddydd Iau, dywedodd y gweinidog y hoffai weld cynghorau'n "cydweithio er mwyn creu partneriaeth gyfartal".

Er hyn, roedd y gweinidog ac arweinwyr y cynghorau yn gyt没n nad yw'r nifer presennol o 22 awdurdod lleol yn gynaliadwy.

Ychwanegodd Mr Davies y byddai'n hoffi cyflwyno deddfwriaeth fyddai'n gwneud "newidiadau sylfaenol" i'r ffordd mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn "rhyngweithio yn y dyfodol".

Yn 么l Janet Finch-Saunders, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymraeg - oedd yn croesawu'r cyhoeddiad - mae ymgynghoriad cyhoeddus yn "hanfodol" cyn bod unrhyw broses diwygio yn digwydd.